Mwynhaodd mwy na 300 o blant o ddeg ysgol gynradd ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr brydau maethlon, gweithgareddau cyffrous a chyfleoedd dysgu gwerthfawr drwy gydol gwyliau’r haf fel rhan o’r rhaglen Bwyd a Hwyl lwyddiannus eleni.
Wedi’i hariannu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), mae’r rhaglen Bwyd a Hwyl yn fenter cyfoethogi gwyliau ysgol sydd wedi’i chynllunio i gefnogi plant i gadw’n iach, yn actif ac yn ymgysylltu yn ystod gwyliau’r haf.
Yn rhedeg rhwng 20 Gorffennaf a 6 Awst, roedd y rhaglen 12 diwrnod yn darparu brecwast a chinio iach i ddisgyblion, tra’n annog plant i roi cynnig ar fwydydd newydd a datblygu agweddau cadarnhaol tuag at fwyta’n iach.
Ochr yn ochr ag addysg maeth, mwynhaodd y plant ystod eang o weithgareddau cyfoethogi gan gynnwys chwaraeon, celf a chrefft, gemau, chwarae awyr agored a sesiynau lles.
Gwahoddwyd rhieni a gofalwyr hefyd i ymuno â’u plant am frecwast neu ginio bob wythnos, gan helpu i gryfhau ymgysylltiad teuluol ac annog bwyta’n iach gartref.
Trwy fwyd iach, gweithgareddau hwyliog a chyfleoedd i ddysgu, mae’r rhaglen yn helpu i gefnogi lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol plant wrth greu profiadau cadarnhaol a all gael effaith barhaol.
Cefnogodd Partneriaeth Bwyd Gynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr Bwyd a Hwyl eleni gyda chyllid i ddarparu gweithgareddau coginio ym mhob ysgol. Roedd cefnogaeth hefyd ar gael i ysgolion ymweld â fferm ac aeth un ysgol â disgyblion am daith o amgylch Slade Farm Organics.
Dysgwch ragor am y rhaglen Bwyd a Hwyl a gwyliwch ffilm fer sy’n cofnodi’r profiadau a’r uchafbwyntiau a rennir gan ddisgyblion a’u rhieni yn ystod y sesiynau eleni.