Yng ngeiriau’r ymgyrch ‘Wythnos Bara Go Iawn’, ‘Bachwch y toes i gymryd rheolaeth o’r bwyd rydych chi a’ch teulu yn ei fwynhau!’
Nod y cynllun yw tynnu sylw at y becysiau hynny sy’n pobi bara go iawn, yn ogystal ag annog mwy o bobl i bobi eu bara eu hunain.
Osgowch yr holl gynhwysion ychwanegol sydd mewn bara wedi’i fasgynhyrchu a phrofi manteision pobi a bwyta bara go iawn – mae rhai pobl yn ei ystyried yn therapiwtig hyd yn oed!
Cawsom sgwrs â’r pobydd surdoes brwd, Martin, i ddarganfod beth sy’n gwneud pobi bara go iawn werth yr ymdrech…
Beth a’ch ysbrydolodd chi i ddechrau pobi?
Darganfod mai un cynhwysyn cyffredin mewn bara yw L-cysteine. Caiff yr asid amino hwn ei ddefnyddio fel cyflyrwr toes – mae’n helpu i wella gwead a chynyddu oes silff bara, a gellir ei gael o ffynonellau naturiol a synthetig, fel y nodir ar y label.
Mae’r ffynonellau synthetig yn deillio o blu hwyaid, ieir a chyrn gwartheg, ond mae’r ffynhonnell fwyaf cyffredin a ddefnyddir mewn bwyd yn dod o wallt dynol. Dyna wnaeth fy mherswadio fi, dechreuais y daith pobi bara gyda phaced 7g o furum, blawd, halen, ac ychydig o amser.
Beth yw heriau a manteision pobi eich bara eich hun?
I ddechrau, yr her yw rhoi’r amser. Fel popeth arall gwerth chweil mewn bywyd, mae rhaid ichi roi o’ch amser; fodd bynnag, gydag ychydig o drefnu, gallwch ffitio eich taith pobi o amgylch eich bywyd.
Nid oes angen offer drud arnoch, mae rysáit bara mwg James Morton o’i lyfr, Brilliant Bread, yn defnyddio dim ond mwg ar gyfer mesur a’r cynhwysion sylfaenol: blawd, dŵr, halen a burum, ac ychydig o fôn braich. Rhowch gynnig arni, ni all unrhyw beth fynd o’i le!!!
Peidiwch â rhoi pwysau arnoch chi’ch hun ynghylch bod yn bobydd bob dydd a chreu’r dorth berffaith, dim ond dechrau arni, a mwynhau bwyta bara cartref – dyna’r wobr 😊.
Sut fyddech chi’n dweud bod bara wedi’i bobi gartref yn wahanol i fara o’r siop?
Wel, mae blas llawer gwell arno, a gan ei fod yn cael ei bobi’r un ffordd â bara o ganrifoedd yn ôl, mae’n fara go iawn. Darganfuwyd y dystiolaeth hynaf o bobi bara mewn safle Natufian 14,500 oed yn anialwch gogledd-ddwyreiniol Gwlad yr Iorddonen – tua 10,000 CC. Felly, byddwch yn cerdded yn ôl troed ein cyndeidiau.
Sut fath o fara fyddwch chi’n ei bobi? Unrhyw hoff fathau a pham?
Mae’r byd bara yn ddiddiwedd, torthau o bob lliw a llun, rhai fflat, rhai crwn, bara melys fel croissants a brioche. Rwy’n pobi torth tun surdoes bob dydd, ond fy ffefryn, gan fy mod yn hoff o fwydydd sawrus, yw pizza arddull Neapolitan.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried pobi?
Dechreuwch arni. Dim ond y cynhwysion sylfaenol sydd eu hangen arnoch. Rhowch gynnig ar y rysáit bara mwg gan James Morton, a pheidiwch â phoeni os yw’r toes wedi codi’n iawn ai pheidio. Rhowch y toes yn y popty, mi fydd yn blasu’n wych – peidiwch â phoeni gormod.
Mi fyddwch yn dysgu bob tro y byddwch yn pobi. Mae llwyth o adnoddau ar gael ar y we ac ar Youtube; os ydych yn ystyried prynu llyfr, prynwch un! Wrth ichi ddod yn fwy hyderus, ystyriwch bobi torth surdoes – byddwch angen cychwynnwr surdoes (meithriniad byw o facteria a burum) felly ni fyddwch angen burum o’r siop.
Mae Richard Bertinet, y pobydd o Lydaw, yn esbonio sut i wneud eich cychwynnwr surdoes cyntaf. Mae ganddo siop fara a patisserie dda yng Nghaerfaddon o’r enw ‘The Bertinet Kitchen’, os hoffech fynd yno. Byddwch yn ofalus wrth ddechrau ar eich taith surdoes, cadw ieir fydd nesaf! Mwynhewch y pobi!
I ddarganfod mwy am yr ymgyrch, ewch i’r wefan.