August 5, 2026

Mae’r partneriaethau bwyd lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Br Morgannwg yn cydweithio ar brosiect i gynyddu rhaglen llythrennedd bwyd blwyddyn o hyd sy’n seiliedig ar le a ddatblygwyd gan Slade Farm’s Fieldwork Studio CIC. Bydd y prosiect hwn ar waith rhwng Medi 2026 a Mehefin 2027. 

Bydd y prosiect yn ceisio meithrin gallu ymysg tyfwyr lleol ar draws y siroedd i gynnal ymweliadau llythrennedd bwyd addysgol ar eu ffermydd/safleoedd tyfu, gan dargedu grwpiau cymunedol lleol gan gynnwys ysgolion, grwpiau ieuenctid, grwpiau pantri bwyd a mwy. Fel rhan o’r gwaith hwn, bydd y prosiect yn cynnig: 

  • Rhaglen fentora gan y partner ffermio arweiniol i ddysgu hanfodion cynnal ymweliadau llythrennedd bwyd addysgol. 
  • Lle bo angen, buddsoddi cyfalaf mewn seilwaith i hwyluso ymweliadau (yn amodol ar ganiatâd cynllunio). 

Bydd tyfwyr sy’n cymryd rhan yn gweithio ochr yn ochr ag ymarferwyr profiadol, yn cysgodi ymweliadau addysgol, yn datblygu eu cynnig dysgu eu hunain ac yn cyfrannu at gymuned ymarfer ranbarthol. Bydd y rhaglen hefyd yn cynhyrchu canllawiau ac adnoddau a all gefnogi ymgysylltiad tyfwyr ag ysgolion yn y dyfodol. 

Rydym nawr yn gwahodd ceisiadau gan dyfwyr a ffermwyr lleol a hoffai gymryd rhan yn y prosiect. Darllenwch y meini prawf isod a llenwch y ffurflen erbyn 31 Mis Awst i fynegi eich diddordeb mewn cymryd rhan. 

Dewisir hyd at 10 tyfwr lleol yn ôl y meini prawf a amlinellir isod, yn seiliedig ar eich atebion. 

Yr hyn y caiff y tyfwyr fydd yn cymryd rhan 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn: 

  • Sesiynau mentora gan dîm ffermio a llythrennedd bwyd profiadol  
  • Cyfleoedd i arsylwi a dysgu o ymweliadau addysgol sefydledig.  
  • Cefnogaeth i ddatblygu hyder wrth gynnal ymweliadau ysgol.  
  • Cymryd rhan mewn Cymuned Ymarfer ranbarthol gyda chyd-dyfwyr  
  • Canllawiau ymarferol ar ddarparu addysg, diogelu, cynhwysiant, rheoli risg a gweithio gydag ysgolion.  
  • Cyfleoedd i rwydweithio gydag ysgolion lleol a phartneriaethau bwyd.  
  • Mynediad at adnoddau ymarferol a ddatblygwyd drwy’r prosiect.  
  • Cyfraniad tuag at seilwaith dysgu awyr agored y cytunwyd arno i helpu i baratoi eich safle ar gyfer ymweliadau addysgol (yn amodol ar feini prawf y prosiect a’r gyllideb sydd ar gael). 

Pwy all ymgeisio? 

Croesawn ddatganiadau o ddiddordeb gan dyfwyr a ffermwyr hen a newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg all wneud y canlynol: 

  • Cynhyrchu bwyd gan ddefnyddio egwyddorion cynaliadwy neu agroecolegol (gan gynnwys ardystiadau organig, ar droi i fod yn sefydliad organig, neu’r rhai sy’n dangos dulliau cyfatebol) neu yn dangos bwriad i symud i ddulliau cynhyrchu o’r fath.  
  • sydd â diddordeb mewn ennyn diddordeb plant a phobl ifanc mewn bwyd, ffermio a natur  
  • yn barod i gymryd rhan drwy gydol y rhaglen fentora  
  • mae ganddynt safle addas lle gellid cynnal ymweliadau addysgol (neu’r potensial i ddatblygu un)  
  • yn agored i ddysgu, rhannu profiadau a chydweithio â thyfwyr eraill  
  • Yn barod i gymryd rhan mewn gwiriad DBS Uwch.  Byddwn ni’n talu am y gwiriad hwn. 
  • Bydd yn rhaid i chi fod ar gael i fynychu cyfanswm o 2 ddiwrnod arsylwi yn Fferm Slade yn ystod 2026/2027, ac ar gael am hyd at 3 diwrnod arall ar gyfer sesiynau cymorth wyneb yn wyneb. 

Nid oes angen bod gennych brofiad blaenorol o weithio gydag ysgolion . 

Cyllid cyfalaf 

Bydd grant cyfalaf cymedrol ar gael i gyfranogwyr llwyddiannus i wella parodrwydd eu safle ar gyfer gweithgareddau addysgol. 

Gall enghreifftiau gynnwys: 

  • cyfleusterau golchi dwylo  
  • cyfleusterau golchi esgidiau  
  • seddi awyr agored neu gysgodfan  
  • dillad gwrth-ddŵr i blant neu PPE  
  • deunyddiau dehongli neu arwyddion  
  • seilwaith addysgol arall y cytunwyd arno  

Gan fod y cyllid hwn yn rhan o raglen grantiau â therfyn amser: 

  • rhaid cymeradwyo’r holl wariant ymlaen llaw  
  • rhaid i’r cyfarpar a gaiff ei archebu gydymffurfio â gofynion y prosiect a chaffael, gan sicrhau bod  yr holl gydsyniadau, caniatâd neu drwyddedau angenrheidiol ar waith.
  • rhaid i bob eitem gael ei phrynu a’i gosod o fewn amserlenni’r prosiect (Rhagfyr 2026) 
  • ni ellir defnyddio arian ar gyfer gwelliannau cyffredinol i ffermydd nad ydynt yn gysylltiedig â darpariaeth addysgol  
  • ni ellir ariannu pob cais, a dyrennir cyllid yn ôl angen y prosiect a’r gyllideb sydd ar gael  
  • Oherwydd terfynau amser tynn, ni allwn ariannu unrhyw gyfleusterau y mae angen caniatâd cynllunio arnynt 

Rhennir rhagor o arweiniad i ymgeiswyr llwyddiannus. 

Cynigir cyflog refeniw bach o £250 i dalu am eich costau i fynychu’r sesiynau mentora, ond y tu hwnt i hyn, ni all y partneriaethau bwyd lleol warantu y bydd refeniw pellach ar gael yn dilyn y cynllun peilot. 

Proses ddethol 

Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly bydd ceisiadau’n cael eu hasesu ar sail:  

  • Amrywiaeth o fathau o ffermydd, graddfeydd cynhyrchu a lefelau profiad  
  • diddordeb mewn datblygu cyfleoedd addysgol fel rhan o’u busnes 
  • ymrwymiad i gymryd rhan drwy gydol y rhaglen a bod yn agored i ddysgu gan gymheiriaid 
  • brwdfrydedd dros ymgysylltu addysgol  
  • parodrwydd i gynnal gweithgareddau addysgol  
  • posibilrwydd o elwa o fentora  
  • cyfrannu at garfan ranbarthol gytbwys .

    llenwch y ffurflen erbyn 31 Mis Awst i fynegi eich diddordeb mewn cymryd rhan.