Gweithiodd Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr gyda chydweithwyr yn Adran Deieteg Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg i sicrhau chwe mis o gyllid gan Lywodraeth Cymru drwy’r gronfa grantiau bach i Bartneriaethau Bwyd.
Nod y prosiect traws-sector hwn oedd darparu capasiti deieteg iechyd cyhoeddus i gefnogi camau gweithredu gan arweinwyr a gwaith cydgysylltu ar draws systemau bwyd lleol yn ogystal â gwella sgiliau’r rhai sy’n cefnogi cymunedau i gael mynediad at fwydydd fforddiadwy, iach o ffynonellau lleol. Cyflawnodd y prosiect y camau gweithredu canlynol:
● Cynnal rhaglenni sgiliau bwyd a maeth cymunedol Lefel 2 i sicrhau bod negeseuon cyson, cywir, sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu lledaenu ar draws cymunedau
● Integreiddio negeseuon maeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth i fentrau bwyd cymunedol lleol. Sicrhau eu bod yn bodloni canllawiau arfer gorau a safonau cenedlaethol
● Cynnal rhaglenni Dechrau Coginio mewn cymunedau lleol, gyda chefnogaeth cyflenwadau bwyd lleol
● Codi proffil a chysylltiadau rhwng mentrau bwyd cymunedol a gwasanaethau addysg/iechyd ar draws y bartneriaeth bwyd
O ganlyniad i’r cyllid, llwyddodd 27 o staff cymunedol i gael achrediad Lefel 2 mewn Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol, ac fe wnaeth 8 ohonynt uwchsgilio i gynnal y rhaglen Dechrau Coginio mewn ysgolion, yn unol â safonau arfer gorau cenedlaethol.
Fel rhan o’r prosiect, mynychodd 18 o rieni plant ysgol gynradd, 20 o oedolion ag anableddau dysgu ac 8 o fyfyrwyr blwyddyn 11 ag anghenion dysgu ychwanegol y sesiynau Dechrau Coginio, rhaglen goginio ymarferol wyth wythnos yn hyrwyddo’r defnydd o fwyd iach, cynaliadwy, a gynhyrchwyd yn lleol. Mae’r rhaglenni’n darparu sgiliau bywyd hanfodol ac mae’r cyfranogwyr yn meithrin gwybodaeth, sgiliau a hyder yn ogystal â chynllunio ar gyfer gwneud newidiadau deietegol cadarnhaol yn y dyfodol.
Mae’r cysylltiadau y mae’r prosiect hwn wedi’u meithrin wedi cael effaith bellgyrhaeddol ac wedi bod yn gyfrifol am gynnydd o 150% yn nifer y bobl sy’n manteisio ar y cynllun Bwyd a Hwyl mewn ysgolion lleol, ar draws y fwrdeistref. Bydd hyn yn arwain at greu 480 o leoedd i blant ysgol yr haf hwn, i gefnogi ymddygiadau iach gartref ac ar draws cwricwlwm yr ysgol.
Cafodd y prosiect ei groesawu’n wresog a chafwyd llawer o adborth cadarnhaol. Dywedodd un Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd sy’n gweithio mewn ysgol:
“Mae Dechrau Coginio wedi bod yn wych ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd yn yr ysgol ac i lawer o rieni a’r gymuned ehangach. Mae wedi helpu rhieni sy’n teimlo’n ynysig i ddod i gymdeithasu gyda rhieni eraill a sgwrsio, wrth ddysgu sgiliau coginio! Mae wedi helpu rhieni i ddechrau rhannu eu profiadau. Byddai gallu parhau â hyn yn hynod fuddiol i rieni o ran helpu eu sgiliau coginio, eu sgiliau cymdeithasol, eu llesiant meddyliol a’u hyder”.
Meddai Vicky Krawec, Deietegydd Iechyd Cyhoeddus Arbenigol: “Mae’r bartneriaeth hon wedi bod yn hynod lwyddiannus ac wedi ein galluogi i feithrin capasiti mewn lleoliadau addysgol i gefnogi system fwyd leol decach a mynd i’r afael â heriau bwyd yn lleol. Rydym hefyd wedi gallu uwchsgilio partneriaid allweddol ar draws y system fwyd i gyflwyno mentrau mewn ysgolion, fel Bwyd a Hwyl.