Ynghylch y Prosiect Peilot
Mewn ymateb i sgyrsiau yng nghyfarfodydd y rhwydwaith bwyd cymunedol, rydym yn gyffrous i lansio ein prosiect peilot newydd gan ddefnyddio cyllid Cymorth Argyfwng Bwyd gan CLlLC.
Y Sefyllfa – Rydym yn deall bod gwirfoddolwyr ac aelodau o’r staff yn treulio eu hamser yn siopa mewn llawer o wahanol archfarchnadoedd i gael y prisiau gorau ar gyfer eu prosiect; mae arnom eisiau dull mwy cydlynol ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan ddefnyddio pŵer prynu swmp drwy gyfanwerthwr lleol Cymru; Castell Howell. Bydd y cynllun peilot yn defnyddio cyllid Cymorth Argyfwng Bwyd gan CLlLC ac yn sicrhau bod arian Cymru yn aros yng Nghymru, tra’n darparu cyflenwad o fwyd o ansawdd da i grwpiau cymunedol a lleihau’r llwyth gwaith i staff a gwirfoddolwyr y trydydd sector.
Sut bydd hyn yn gweithio? Gwahoddir Grwpiau Cymunedol i wneud cais i fod yn rhan o’r grŵp prynu. Caiff ymgeiswyr llwyddiannus Gyfrifon Castell Howell a byddant yn derbyn hyd at £4,500 o gyllideb i brynu eitemau ar gyfer eu prosiectau bwyd. Gellir prynu bwyd neu ddiod ar gyfer eich prosiect. Bydd archebion yn cael eu gosod yn uniongyrchol gyda Castell Howell, fydd yn danfon yr eitemau bwyd yn uniongyrchol i chi.
Detholiad: Bydd y panel yn dewis hyd at 10 o grwpiau cymunedol i weithio gyda hwy. Bydd grant gwerth hyd at £4,500 ar y mwyaf i bob sefydliad.
Cyllideb: Mae cyfanswm o £45,000 o Gymorth Argyfwng Bwyd ar gael i gefnogi sefydliadau trydydd sector ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy’n darparu cymorth bwyd i gymunedau.
Pwy sy’n gymwys i dderbyn y grant? Mae’r Grant Tlodi Bwyd ar gael i sefydliadau sydd heb fod er elw, sy’n seiliedig yng nghymunedau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr neu yn eu gwasanaethu..
Ar gyfer beth y gallaf i ddefnyddio’r grant?
Cymorth Argyfwng Bwyd – i gynnal a chryfhau ymdrechion presennol o gwmpas gweithgareddau a gwasanaethau tlodi bwyd. Bydd y cyllid hwn yn talu am wariant cyfalaf a refeniw.
Manylion y gronfa – Ceisiadau grant hyd at £4,500.00. (Cyllideb Castell Howell). Mewn achosion eithriadol, gall y panel yn ôl ei ddisgresiwn ystyried swm uwch. Os ydych yn ansicr, mae croeso i chi sgwrsio â’n cynghorwyr ariannu cyn cyflwyno cais, gallant roi cyngor defnyddiol i chi.
Gofynion Gwneud Cais: Rhaid i ymgeiswyr esbonio:
Pam mae angen y cyllid a sut y bydd yn ychwanegu gwerth; Targedu: Sut y bydd yn cyrraedd y rheiny sydd fwyaf anghenus; Cynaladwyedd: Cynlluniau ar gyfer yr amser ar ôl i’r cyllid ddod i ben; Mesur Effaith: Defnyddio data, ystadegau, neu astudiaethau achos; Cydweithio: Gweithio mewn partneriaeth yn lleol/gyda nifer o asiantaethau; Integreiddio: Osgoi dyblygu, adeiladu rhwydweithiau.
Disgwyliadau Ychwanegol
Dylai rhaglenni weithio gyda gwasanaethau presennol (e.e. banciau bwyd, Fareshare, gwasanaethau iechyd, cyn-filwyr, elusennau digartrefedd ac yn y blaen) a disgwylir i ymgeiswyr am brosiectau sy’n gysylltiedig â phrosiectau bwyd ymgysylltu â Phartneriaeth Bwyd Cynaladwy Pen-y-bont ar Ogwr.
Dyddiad Cau: 1am ar 01/06/26
Oherwydd canllawiau llym y cyllidwyr, mae angen gwario a chyflawni pob prosiect yn llawn erbyn 31/3/27 a bydd gofyn iddynt gyflwyno adroddiad diwedd prosiect a/neu astudiaeth achos a ffotograffau erbyn y 14eg o Ebrill 2027. Bydd methu â gwneud hynny mewn pryd yn arwain at dynnu’r cynnig cyllid yn ôl ar unwaith.