Os ydym am i’r genhedlaeth nesaf ddeall o ble mae bwyd da yn dod, rhaid i ni roi profiad go iawn iddyn nhw. Nid dim ond rhywbeth sy’n cyrraedd mewn pecyn plastig, wedi’i brisio’n barod mohono, ond rhywbeth sy’n cael ei dyfu mewn pridd, sy’n cael ei ddylanwadu gan y tymhorau, ac sy’n cael ei gynhyrchu gan bobl sy’n gofalu am dir ac anifeiliaid.
Dyna pam mae teithiau fel ymweliad Ysgol Gynradd Abercerdin â Slade Farm Organics yn Sant-y-Brid yn bwysig. Treuliodd y disgyblion y diwrnod yn torchi eu llewys – yn cloddio’r pridd, yn dysgu am sut mae bwyd yn cael ei dyfu, ac yn gweld drostyn nhw eu hunain beth mae ‘o’r fferm i’r fforc’ yn ei olygu mewn gwirionedd. Dyma’r math o ddysgu sy’n aros gyda phobl oherwydd ei fod yn gorfforol, yn gofiadwy, ac yn hwyliog.
Fferm organig weithredol, wedi’i chynllunio ar gyfer dysgu
Fferm organig ym Mro Morgannwg ywSlade Farm Organics sy’n croesawu grwpiau ysgol ac ymwelwyr i rannu’r hyn y mae’n ei wneud a pham. Mae ei hymweliadau â’r fferm yn canolbwyntio ar ffermio sy’n gyfeillgar i natur, cysylltiad cymunedol, a rhoi cipolwg fanylach i bobl o fywyd ar fferm weithredol.
Fel fferm organig gymysg o dda byw a thir âr 650 erw, yn ymestyn o Saint-y-brid i’r arfordir yn Southerndown, mae’n gyfuniad prin o faint addas, tirwedd a chynhyrchu bwyd sy’n ei gwneud yn lle gwych i ddysgu yn yr awyr agored.
Mae’r math hwn o brofiad yn gwneud tri pheth pwysig i gyd ar yr un pryd:
- Meithrin hyder mewn perthynas â bwyd: mae plant yn fwy tebygol o flasu bwyd, ei werthfawrogi a gwastraffu llai ohono pan fyddan nhw’n ei ddeall.
- Cysylltu iechyd â bywyd go iawn: mae “bwyta’n iach” yn dod yn rhywbeth ymarferol, yn hytrach na haniaethol.
- Cysylltu bwyd â natur a chynaliadwyedd: maen nhw’n gweld bod dewisiadau ffermio yn effeithio ar bridd, bywyd gwyllt a’r hinsawdd.
Bwyd a Hwyl
Roedd yr ymweliad hwn yn rhan o’r Rhaglen Gwella Gwyliau Ysgol Bwyd a Hwyl; cynllun sy’n cael ei gynnal mewn ysgolion ac sy’n darparu prydau iach, gweithgaredd corfforol, a chyfoethogi (gan gynnwys dysgu am fwyd a maeth) yn ystod gwyliau’r haf, gan gefnogi plant mewn ardaloedd anghenus.
Mae Bwyd a Hwyl wedi bod ar waith ers 2015 ac mae bellach yn cael ei oruchwylio’n genedlaethol gan CLlLC, gan helpu plant i aros yn iach, yn weithgar ac yn gysylltiedig yn ystod y gwyliau hir.
Fel rhan o’i waith ehangach, mae Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr wedi cefnogi Bwyd a Hwyl yn lleol drwy helpu i ddarparu pecynnau tyfu a theithiau i fferm ar gyfer Ysgol Gynradd Abercerdin, gan wneud cyfleoedd fel hyn yn bosibl.
Fel yr egluroddGraeme Wilson, Ffermwr a Thyfwr yn Slade Farm Organics, “Mae ymweliadau ysgol â ffermydd gweithredol yn bwysig oherwydd eu bod yn troi bwyd o fod yn syniad haniaethol i rywbeth y gall plant ei weld, ei gyffwrdd a’i ddeall. Pan fydd pobl ifanc yn cwrdd â’r bobl sy’n tyfu eu bwyd, yn profi’r tymhorau ar y tir ac yn dysgu sut mae pridd, anifeiliaid a natur i gyd yn gweithio gyda’i gilydd, mae’n meithrin hyder, chwilfrydedd a gofal. Mae’r profiadau go iawn, ymarferol hynny’n aros gyda nhw – ac yn eu helpu i wneud dewisiadau iachach, mwy cysylltiedig a mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”
Mewn prosiect arall sy’n cael ei oruchwylio gan Bartneriaeth Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr mae Slade Farm yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgol gynradd Afon-y-Felin ar gynllun peilot blwyddyn i gysylltu plant â thir, bwyd a chynhyrchwyr drwy ddysgu tymhorol drwy brofiad. Mae’n cynnwys ymweliadau â ffermydd, cynllunio tyfu bwyd mewn ysgolion, gwersi coginio gan ddefnyddio cynnyrch fferm organig (sy’n canolbwyntio ar fwyd yn ei dymor), cynllunio cnydau dan arweiniad disgyblion sy’n gysylltiedig â ryseitiau ar gyfer cegin dros dro, diweddariadau parhaus am y fferm – a hyd yn oed ddigwyddiad dathlu’r haf gyda rhieni, a fydd yn cynnwys bwyty dros dro.
I gael gwybod mwy am y prosiect hwn wrth iddo esblygu, cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Partneriaeth Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr yma.