September 8, 2026

Partneriaeth blwyddyn yn cysylltu plant â fferm organig drwy weithgareddau tyfu tymhorol, coginio a dysgu ymarferol

Mae disgyblion o ysgol gynradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi treulio blwyddyn yn darganfod o ble mae eu bwyd yn dod drwy gynllun peilot arloesol sy’n cysylltu’r hyn a ddysgir yn yr ystafell ddosbarth â fferm organig weithredol.

Daeth Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr â Slade Farm Organics ac Ysgol Gynradd Afon-y-Felin ynghyd ar gyfer y prosiect blwyddyn, a oedd wedi’i anelu at gysylltu plant â’r tir, cynhyrchwyr bwyd lleol a’r tymhorau drwy weithgaredd dysgu ymarferol, yn seiliedig ar brofiad.

Dros y flwyddyn ysgol, ymwelodd y disgyblion â Slade Farm Organics ar wahanol gyfnodau yn y calendr ffermio, gan gynnwys yn ystod y tymor wyna, a datblygu eu prosiect tyfu eu hunain yn yr ysgol ar yr un pryd.

Fe wnaeth y plant helpu i gynllunio pa gnydau i’w tyfu, plannu a gofalu am lysiau, cael diweddariadau rheolaidd gan y fferm a chymryd rhan mewn sesiynau coginio gan ddefnyddio cynnyrch organig a chynnyrch tymhorol.

Yn ystod tymor yr hydref, fe wnaeth Coginio ‘Da’n Gilydd Cymru gynnal cwrs sgiliau coginio chwe wythnos hefyd i helpu disgyblion i feithrin sgiliau cegin hanfodol, ochr yn ochr â sesiynau coginio pellach a gynhaliwyd gan Angharad Underwood o’r Cookalong Clwb.

Daeth y prosiect i ben gyda dathliad haf i rieni a theuluoedd ar ddiwedd y tymor, gyda disgyblion yn helpu i baratoi, gweini a bwyta prydau a wnaed gan ddefnyddio cynnyrch yr oeddent wedi’i dyfu eu hunain ochr yn ochr â chynhwysion o Slade Farm.

Roedd bwydlen y bwyty dros dro yn cynnwys hwmws ffa a phys, tagine ffacbys wedi’i wneud â phlanhigyn wy a courgettes wedi’u tyfu’n lleol, salad tymhorol ac iogwrt wedi’i rewi wedi’i wneud gydag aeron lleol.

Roedd y ryseitiau’n seiliedig ar y cnydau yr oedd y disgyblion wedi’u plannu, gan ganiatáu i’r plant ddilyn y daith lawn o gynllunio a thyfu bwyd i’w goginio a’i rannu gyda’u teuluoedd.

Hwyluswyd y prosiect gan Bartneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr, a ddaeth â’r holl bartneriaid ynghyd, ac y mae ei strategaeth yn ymwneud â sicrhau bod bwyd da yn fwy hygyrch i bawb.

Ariannwyd y cynllun peilot drwy Gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Partneriaethau Bwyd Lleol.

Ymwelodd y disgyblion â Slade Farm Organics am y tro cyntaf ym mis Medi 2025, lle y cawsant eu cyflwyno i’r fferm a’i hardaloedd tyfu llysiau. Fe wnaethant ddychwelyd yn ystod tymor wyna’r gaeaf ac eto yn y gwanwyn i weld sut yr oedd y fferm a’i chnydau newid drwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd Graeme Wilson, ffermwr trydedd genhedlaeth yn Slade Farm Organics, fod yr ymweliadau cyson wedi caniatáu i’r plant ddod yn fwyfwy hyderus a chymryd rhan ym mywyd y fferm.

Yr hyn sydd wedi rhoi boddhad mawr i rywun yw gweld y daith y mae’r plant wedi ei dilyn,” meddai.

Efallai y byddan nhw’n cyrraedd wedi cyffroi’n lân neu’n teimlo braidd yn nerfus am fod ar fferm weithredol, ond erbyn eu hymweliad olaf maen nhw’n llawer mwy cyfforddus. Maen nhw’n deall beth sy’n digwydd ac maen nhw’n cyfrannu at waith y fferm.

“Dechreuodd y plant drwy drafod hadau a thyfu bwyd fel rhywbeth eithaf haniaethol. Yna fe ddisgynnodd y geiniog: tynnu betys o’r ddaear a dechrau meddwl sut y gallent eu troi’n frownis siocled. Roedden nhw’n gwneud y cysylltiad yn llawn ac yn dechrau cymryd perchnogaeth o’r broses o dyfu bwyd.”

“Mae ‘na rywbeth gwirioneddol bwysig am blant yn dilyn y tymhorau ac yn dychwelyd i’r un lle ac at yr un bobl dros amser. Mae’n caniatáu iddyn nhw feithrin hyder, datblygu dealltwriaeth llawer dyfnach ac yn y pen draw newid eu perthynas â bwyd. Dyna sut mae llythrennedd bwyd yn datblygu, yn fy marn i.”

Yn ôl yn Ysgol Gynradd Afon-y-Felin, fe wnaeth y plant roi’r hyn yr oedden nhw wedi’i ddysgu ar waith drwy gynllunio a phlannu cnydau ym mannau tyfu’r ysgol. Roedd y cynnyrch a blannwyd yn ystod y prosiect yn cynnwys betys, shibwns, pys, ffa, ffenigl a mintys.

Dywedodd Katie Harris, athrawes ddosbarth yn Ysgol Gynradd Afon-y-Felin, fod y prosiect wedi helpu disgyblion i ddeall o ble mae bwyd yn dod yn ogystal â datblygu eu hyder, eu chwilfrydedd a gwaith tîm.

“Roedden ni’n tyfu betys yn ein rhandiroedd, ond nes i’r plant eu gweld nhw’n tyfu, roedd y syniad yn dal yn eithaf haniaethol,” meddai.

“Roedden nhw’n llawn cyffro o allu tynnu’r betys o’r ddaear, eu coginio yn y dosbarth a chael rhyw fath o ffrwydrad betys. Doedd e ddim yn gynnyrch y bydden nhw wedi’i brynu na’i goginio gartref o’r blaen, ond roedden nhw i gyd yn awyddus i’w flasu. Nawr, maen nhw’n llawer mwy parod i dynnu rhywbeth o’r ddaear, ei olchi a’i flasu.

“Yr effaith fwyaf a gafodd hyn ar y dosbarth oedd ar eu gallu i weithio gyda’i gilydd. Mae cydweithio ar brosiect wedi eu helpu i gymryd eu tro, cyfaddawdu a gweithio fel tîm. Rydym hefyd wedi gweld parodrwydd mawr i flasu pethau newydd.”

Roedd y prosiect hefyd yn anelu at wneud y berthynas rhwng tyfu, coginio a bwyta bwyd yn fwy ystyrlon drwy gynnwys teuluoedd yn y digwyddiad terfynol.

Arweiniodd Angharad Underwood – sy’n rhedeg y Cookalong Clwb, prosiect coginio cymunedol sy’n dysgu sgiliau cegin, cyllidebu a chynaliadwyedd hanfodol i blant a theuluoedd – sesiynau coginio pellach wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen.

Meddai, “Gwneud bwyd yn real yw’r nod. Mae’r plant yn dechrau drwy roi eu dwylo yn y pridd, yna plannu, dyfrio a gofalu am yr hyn maen nhw wedi’i dyfu. Yn y pen draw, maen nhw’n casglu’r cynnyrch, yn ei goginio ac yn bwydo eu teuluoedd. Mae’r cysylltiad hwnnw rhwng yr hyn maen nhw wedi’i dyfu, sut mae’n blasu, sut mae’n teimlo a rhannu’r bwyd hwnnw – yn bwysig iawn.

“Mae’n fwy na’r ffaith bod y plant wedi gwneud rhywbeth a dyma fe. Maen nhw wedi gweithio am chwech, wyth neu naw mis i’w greu, felly maen nhw’n ei werthfawrogi. Maen nhw’n deall mwy am wastraff bwyd, sut i wneud y gorau o’r hyn maen nhw wedi’i dyfu a’r balchder sy’n dod o’i rannu gyda’u teuluoedd.”

I rai disgyblion, y prosiect hwn oedd eu profiad cyntaf o ymweld â fferm weithredol neu weld sut mae llysiau’n tyfu.

Dywedodd un disgybl: “Doeddwn i erioed wedi bod i fferm o’r blaen. Dysgais fod rhai llysiau’n tyfu yn y ddaear ac eraill yn tyfu ar goesynnau. Ers hynny, dw i wedi dechrau tyfu mefus gartref mewn pot ac rydyn ni’n eu rhoi yn y sied, rhag i’r gwlithod eu bwyta.”

Cefnogwyd ardaloedd tyfu’r ysgol hefyd gan Marlas Green Space, prosiect natur a chwarae dan arweiniad y gymuned yng Ngogledd Corneli, Pen-y-bont ar Ogwr. Fe wnaeth eu gwirfoddolwyr helpu i osod twnnel polythen, cynnal a chadw cnydau a dyfrio’r planhigion yn ystod gwyliau’r ysgol.

Dywedodd Emma Burnell, cadeirydd Marlas Green Space, fod y prosiect eisoes yn annog plant i gymryd mwy o ran mewn gweithgareddau amgylcheddol y tu allan i’r ysgol.

Meddai, “Mae’r plant yn ein hadnabod ni pan fyddwn ni’n gweithio yn y gymuned ac yn dod draw i helpu. Rydyn ni’n gobeithio cynnwys rhieni hefyd, fel y gall plant weithio ochr yn ochr â’u teuluoedd, mynd â’r sgiliau hynny adref ac yna eu rhoi ar waith yn y gymuned ehangach.”

Ychwanegodd Graeme fod y dull o weithio mewn partneriaeth yn un o gryfderau allweddol eraill y cynllun peilot, gan ddod â’r ysgol, sefydliadau cymunedol a gwirfoddolwyr ynghyd mewn ffordd a greodd rywbeth mwy na’r gweithgareddau unigol a rhoi cyfle cryfach i’r ysgol barhau â’r gwaith.

Yn dilyn y cynllun peilot, bydd Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi yr hyn a ddysgwyd ar waith mewn rhaglen ranbarthol ehangach. Mae Partneriaethau Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a Chasnewydd wedi derbyn cyllid drwy Gynllun Grant Cydweithio 2026-27 Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru ar gyfer Partneriaethau Bwyd Lleol i ddatblygu rhaglen llythrennedd bwyd gydweithredol sy’n cysylltu ysgolion â ffermydd lleol.

Bydd y rhaglen yn gweithio gyda dwy neu dair ysgol ym mhob ardal awdurdod lleol a bydd hefyd yn cynnwys gweithgaredd mentora ar gyfer tyfwyr a ffermydd, gan helpu mwy o gynhyrchwyr lleol i gynnal ymweliadau ysgol a chreu’r potensial i ffermydd sy’n cymryd rhan gael ffynhonnell refeniw ychwanegol.