April 30, 2026

Gall meithrin cysylltiad â bwyd tymhorol fod yn ffordd wych o fwyta’r bwyd mwyaf maethlon a chynaliadwy sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn. Ac mae tyfu eich bwyd eich hun yn un o’r ffyrdd gorau o feithrin y cysylltiad hwnnw â’r tymhorau.

Er mwyn cynnig cyfle i fwy o bobl ddysgu am dyfu bwyd tymhorol, mae Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr wedi cefnogi Slade Farm Organics, gardd farchnad organig, i lansio cyfres o weithdai ymarferol drwy gydol y flwyddyn dyfu.

Lansiwyd gweithdai’r gwanwyn ym mis Ebrill, a bwriedir cynnal rhagor o sesiynau yn yr haf a’r hydref. Gall cyfranogwyr fynychu sesiynau sengl, neu gofrestru ar gyfer nifer o weithdai er mwyn dysgu am gylch blynyddol fferm organig weithredol.

Mae’r sesiynau wedi’u hanelu at dyfwyr cartref, pobl sydd â diddordeb mewn dechrau tyfu bwyd neu unrhyw un sydd â diddordeb mewn sut mae bwyd organig, tymhorol yn cael ei gynhyrchu.

Gan ddechrau yn y gwanwyn, roedd y cwrs cyntaf yn canolbwyntio ar y newidiadau yn yr ardd wrth i dymheredd y pridd ddechrau codi, wrth i’r dydd ymestyn ac wrth i’r tymor hau ddechrau. Ar daith o amgylch yr ardd farchnad, cyflwynwyd y cyfranogwyr i’r gwahanol ddulliau lluosogi hadau a ddefnyddir i ddechrau’r cnydau a sut maen nhw’n cael eu hamddiffyn wrth iddyn nhw ddechrau tyfu.

Roedd y sesiwn yn trafod y cysyniadau cynllunio allweddol y dylai unrhyw un sy’n dechrau tyfu planhigion mewn lle newydd eu hystyried, fel sut i gynllunio hau olynol a chylchdroi cnydau i sicrhau cyflenwad o fwyd drwy gydol y tymor, a sut i gynllunio gwely llysiau er mwyn tyfu cymaint o blanhigion â phosibl.

Dysgodd y grŵp hefyd am yr heriau y mae’r rhan fwyaf o dyfwyr yn eu hwynebu yn gynnar yn y tymor, o’r tywydd anrhagweladwy i ddelio â gwlithod a cholomennod yn bwyta eich eginblanhigion.

Er mwyn helpu’r grŵp i roi’r hyn a ddysgwyd ar waith gartref, cynhaliwyd sesiwn ymarferol lle y bu pawb yn paratoi gwely plannu newydd gan ddefnyddio’r dull dim cloddio, technegau ar gyfer annog hadau i egino, o hau mewn modiwlau a gwahanu eginblanhigion, i hau’n uniongyrchol mewn pridd wedi’i baratoi, ac amddiffyn eginblanhigion ifanc tyner â gwlân a thwneli.

Meddai Graeme Wilson, ffermwr a thyfwr yn Slade Farm Organics:

“Roedd yn wych gweld hyder pobl yn cynyddu yn sgil y gweithdy. Dyna un fantais fawr sesiynau ymarferol mewn amgylchedd ffermio – gall pobl gael profiad ymarferol a dysgu gan ein tîm yma. Er y gallai graddfa’r hyn a wnawn yn yr ardd farchnad fod yn wahanol, mae toreth o wybodaeth y gallwn ei throsglwyddo i bobl ei defnyddio gartref i dyfu bwyd yn llwyddiannus, yn dymhorol ac yn gynaliadwy.

“Rydym yn mawr obeithio y gallwn helpu pobl i feithrin cysylltiad llawer cryfach â sut mae eu bwyd yn cael ei gynhyrchu – ac ysbrydoli pobl i rannu’r wybodaeth gyda’u teulu, eu ffrindiau a’u cymuned eu hunain,” meddai.

Bydd gwybodaeth am weithdai yn y dyfodol yn cael ei rhannu drwy ein cylchlythyr a thrwy sianeli cyfryngau cymdeithasol Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr.