Y gwanwyn hwn, mae tua 100 o goed afalau newydd wedi cael eu plannu mewn lleoliadau cymunedol ar draws ardal Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r coed wedi cael eu tyfu gan Ediculture, ymddiriedolaeth addysgol sy’n ymroddedig i ddiwylliant bwyd adfywiol sy’n cynnal gweithgareddau’n ymwneud â chwilota am fwyd, tyfu bwyd, coginio a bwyta’n iach.
Pan welodd tîm Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr alwad gan Ediculture i ddod o hyd i gartref newydd i 100 o goed afalau, datblygwyd y prosiect dosbarthu newydd. Gyda phrofiad o ddatblygu prosiectau tyfu blaenorol mewn dinasoedd, nod y prosiect yw plannu coed ffrwythau mewn ysgolion a chanolfannau cymunedol er mwyn cynyddu mynediad pobl at fwyd ffres o fewn eu cymuned eu hunain.

Fel yr eglurodd Stephen Watts, sylfaenydd Ediculture:
“Mae’r prosiect yn ymwneud â sicrhau bod pobl yn cael bwyd da, y gellir ei gynaeafu’n lleol am ddim. Mae coed ffrwythau yn ffordd gynhyrchiol iawn o wneud hynny – pan fydd y coed afalau yma’n aeddfedu, byddant yn cynhyrchu tua 200 cilogram o ffrwythau fesul coeden. Mae hynny’n swm enfawr i’r gymuned, neu i elusennau bwyd ym mhob lleoliad.
“Mae plannu mewn ysgolion, ac annog plant i gymryd rhan, hefyd wedi bod yn rhan bwysig iawn o’r prosiect, gan sicrhau eu bod yn gallu dysgu am dyfu, cynaeafu ac o ble mae eu bwyd yn dod.”
Mae Stephen wedi bod yn casglu mathau o afalau treftadaeth ers 2010, ac mae bellach yn tyfu tua 180 o wahanol fathau o afalau ar safle Coed Hills ym Mro Morgannwg:
“Dw i wedi bod yn canolbwyntio ar ddod o hyd i afalau a fydd yn tyfu’n dda yn yr amodau lleol. Gall coed ffrwythau fod yn rhai sy’n tyfu mewn ardaloedd penodol, dydyn nhw i gyd ddim yn tyfu’n dda ym mhobman.
“Maen nhw i gyd wedi cael eu tyfu heb wrtaith cemegol na phlaladdwyr, ac rydyn ni wedi dewis mathau a fydd yn ddigon gwydn i wrthsefyll yr amodau plannu. Mae’n gymysgedd o goed treftadaeth Cymreig a mathau eraill yr ydym wedi’u casglu o berllannau ledled y DU yr ydym yn credu y byddant yn n addasu’n dda i’r safle.
“Rydym wedi plannu cymysgedd o afalau bwyta ac afalau coginio er mwyn cael cnwd amlbwrpas, ac rydym wedi dewis mathau y gellir eu cynaeafu drwy gydol y flwyddyn, gan gynnig tymor estynedig – hyd at naw mis mewn blwyddyn dda,” meddai.
Mae’r coed sy’n cael eu plannu tua thair blwydd oed a byddant wedi aeddfedu’n llawn ymhen 10-15 mlynedd. Bydd hynny’n rhoi cyfle i gymunedau ddod ynghyd i reoli’r cynhaeaf a chreu gweithgareddau’n ymwneud â choginio cymunedol a chadwoli fel gweithdai siytni neu brosiectau gwneud sudd.
“Bydd yna lawer o syniadau ynghylch beth i’w wneud o ran cynaeafu oherwydd bydd gennym doreth o ffrwythau erbyn hynny. Dyna ochr hwyliog y prosiectau hyn – bydd gennym lwyth o ffrwythau i’w rhannu gyda phawb yn y cymunedau o amgylch y coed,” meddai Stephen.
Mae Stephen yn gydawdur y llyfr The Abundance Handbook: A guide to Urban Fruit Harvesting