Gwaith cyfredol

Mae Partneriaeth Fwyd Gynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd yn gwneud y canlynol:

  • Bod yn rhan o’r Peilot Llysiau Cymru yn yr Ysgol, gan gyflwyno llysiau organig a dyfwyd yng Nghymru i ysgolion cynradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr
  • Cynnal Rhwydwaith Bwyd Cymunedol misol gyda BAVO
  • Cynnal Rhwydwaith Economi Bwyd Cynaliadwy bob chwarter
  • Rhedeg Cyrsiau Coginio Cymunedol gyda Choginio Gyda’n Gilydd Cymru
  • Ailddosbarthu bwyd dros ben a dyfir ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan B Leaf i grwpiau cymunedol
  • Gweithio gyda BGC CTM i lansio grŵp bwyd rhanbarthol.
  • Rhedeg Cyrsiau Tyfu Llysiau gyda Slade Farm Organics
  • Cynllunio canolfan fwyd ar gyfer cyflenwi bwyd cymunedol gyda Rhwydwaith Bwyd Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr
Lady with freshly picked carrots in from of her face

Gwaith blaenorol

Cyn hyn buom yn gweithio ar ymgysylltu ac asesu er mwyn llunio ein Strategaeth Fwyd a’n Cynllun Gweithredu:

  • Ymgysylltu a gweledigaeth
  • Asesu Systemau Bwyd
  • Ymgynghori ynghylch System Fwyd
  • Datblygu System Fwyd

Mae’r broses hon wedi galluogi’r bartneriaeth i gydgynhyrchu Strategaeth Fwyd Gynaliadwy ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr o 2025 hyd 2028 fydd ar gael yn fuan yn 2025.

Stock image of tinned food being placed in boxes

Cyflawniadau'r flwyddyn gyntaf

Dyma rai o’r camau a gyflawnwyd yn ystod blwyddyn gyntaf y bartneriaeth:

  • Mapio systemau bwyd ar draws Pen-y-bont ar Ogwr
  • Cynnal Gweithdy Rhanddeiliaid
  • Cynnal Uwchgynhadledd Fwyd Pen-y-bont ar Ogwr
  • Gweithio gyda Bwyd a Hwyl i gyflwyno llysiau wedi eu tyfu ym Mhen-y-bont ar Ogwr i’r cynllun
  • Dosbarthu grantiau bwyd cymunedol drwy BAVO
  • Cynnal sesiynau ymgysylltu cymunedol galw i mewn
  • Cychwyn arolwg bwyd ar draws y sir
  • Drafft cychwynnol Strategaeth Fwyd Gynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ymgysylltu a chynnal cyfarfodydd grŵp llywio rheolaidd
  • Ail-lansio’r rhwydwaith bwyd cydweithredol gyda BAVO
  • Gweithio gyda’r Cynlluniwr Lles i lansio Rhwydwaith Busnesau Bwyd Cynaliadwy. Mae’r comisiwn hwn yn ymgysylltu ar hyn o bryd gyda busnesau bwyd lleol i lansio’r rhwydwaith newydd.
  • Cydweithio gyda Tanio i’r Prosiect Mudiad Bwyd Da
  • Gweithio gyda Bwyd a Hwyl i ddarparu pecynnau tyfu a thripiau i ffermydd ar gyfer Ysgol Gynradd Abercerdin.
  • Gweithio gyda Ysgol Gynradd Llidiart ar eu prosiect rhydd o ddigoedwigo i ymgyrchu dros bitsa rhydd o ddigoedwigo!
  • Sesiynau gwastraff bwyd wedi eu cydlynu mewn ysgolion gyda Baobab Bach.
2024 Overview document cover

Trosolwg 2024

Dewch i wybod mwy am ein cyraeddiadau yn 2024