Mae mwy i fwyd da na dim ond yr hyn sydd ar y plât – mae’n ymwneud â hyder, cysylltiad, a chael y sgiliau i wneud dewisiadau iach sy’n ymarferol mewn bywyd go iawn. Dyna un o’r rhesymau dros fodolaeth Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr: mae’n dod â phobl o sefydliadau o bob cwr o’r fwrdeistref sirol ynghyd sydd â nod cyffredin — helpu i sicrhau bod bwyd cynaliadwy, iach ar gael i bawb, gan ddefnyddio dull cydweithredol ar draws y system fwyd gyfan.

Man cychwyn ymarferol yw coginio. Pan fydd plant yn dysgu sgiliau bwyd syml, ymarferol yn gynnar, gall ddylanwadu ar eu harferion am oes; nid mewn ffordd bregethwrol, ond drwy wneud i fwyd iach deimlo’n normal, o fewn cyrraedd a hyd yn oed yn hwyl.

Cysylltu Ysgol Gynradd Tondu â Coginio ‘Da’n Gilydd

Fel rhan o waith y Bartneriaeth i gryfhau addysg a sgiliau bwyd yn lleol, fe wnaeth Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr helpu i gysylltu Ysgol Gynradd Tondu gyda Coginio ‘Da’n Gilydd i gynnal sesiynau coginio a maeth i ddisgyblion.

MaeCoginio ‘Da’n Gilydd yn darparu profiadau “coginio iach” ymarferol mewn ysgolion a chymunedau ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar sgiliau bywyd hanfodol a negeseuon maeth cadarnhaol ac ymarferol. Nod y gweithdai yw atgyfnerthu iechyd a llesiant drwy goginio, ac i ddangos y gall bwyta’n iach fod yn fforddiadwy, yn ddiddorol ac yn realistig.

Pam mae’r math hwn o brosiect yn bwysig

I lawer o deuluoedd, nid diffyg gofal yw’r rhwystr mwyaf i ‘fwyta’n dda’ – ond amser, cost, hyder a lle i feddwl. Mae sesiynau coginio mewn ysgolion yn helpu i fynd i’r afael â hynny o’r dechrau. Gallant:

  • feithrin sgiliau bywyd go iawn (sgiliau paratoi sylfaenol, prydau syml, diogelwch bwyd)
  • gwella dealltwriaeth o fwyd a maeth mewn ffordd y mae plant yn ei chofio
  • gwneud i goginio deimlo’n rhywbeth cymdeithasol a phleserus, yn hytrach na rhywbeth llawn straen
  • cefnogi llesiant tymor hwy drwy hybu hyder ac annibyniaeth

Rydym wedi gweld mewn prosiectau coginio lleol eraill a gefnogir gan y Bartneriaeth bod sesiynau ymarferol yn gallu gwella llesiant, cysylltiad a hyder y cyfranogwyr, sef y math o effaith donnog sy’n cryfhau cymunedau.

Meddai Aelod y Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid, y Cynghorydd Martyn Jones,“Mae mwy i’r sesiynau hyn na dim ond rhannu ryseitiau – maen nhw’n ymwneud â hyder, iechyd a rhoi sgiliau ymarferol i bobl eu defnyddio mewn bywydau go iawn. Drwy gysylltu ysgolion a lleoliadau cymunedol â Coginio ‘Da’n Gilydd, rydym yn helpu mwy o bobl ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gael mynediad at yr offer i fwyta’n dda, gwastraffu llai a theimlo’n dda ynglŷn â bwyd.”

Dywedodd Jen Davis o Coginio ‘Da’n Gilydd, “Rwy’n mwynhau cynnal y gweithdai coginio gyda Phartneriaeth Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr yn fawr iawn. Mae’n wych gweld brwdfrydedd y plant tuag at gynhwysion sylfaenol a sut maen nhw’n darganfod bwydydd a blasau newydd.

Mae’r sesiynau cymunedol a’r prosiectau diogelu ieuenctid i gyd yn ymwneud â rhyngweithio cymdeithasol a magu hyder. Mae coginio yn gyfle gwych i ymlacio a bod yn agored mewn lle diogel, ac mae’n hyfryd gwylio sut mae’r mynychwyr yn dechrau ymddiried yn y naill a’r llall, yn ymgysylltu â’i gilydd ac yn ymfalchïo yn eu sgiliau coginio wrth i’r wythnosau fynd yn eu blaen.


Rydym yn defnyddio ryseitiau gyda chynhwysion sylfaenol i ddangos pa mor hawdd, maethlon a rhad y gall coginio fod o’i gymharu â dibynnu ar fwydydd cyfleus neu gludfwyd. Rydym eisiau annog pobl i gefnogi eu siopau lleol a’u cynhyrchwyr lleol, ac i fynd yn ôl i’r gegin i greu prydau i’w mwynhau fel teulu neu grŵp.”

Cymerwch ran

Os ydych yn ysgol, grŵp cymunedol, neu sefydliad ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yr hoffech ymchwilio i sesiynau sgiliau bwyd, partneriaethau, neu brosiectau cydweithredol lleol, mae Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr yma i helpu i wneud y cysylltiadau hynny. Cysylltwch â ni yma.

I ddysgu mwy am Coginio ‘Da’n Gilydd a’r sesiynau mae’n eu cynnal, ewch i: https://www.cookingtogether.co.uk.