Mae disgyblion ysgolion cynradd ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dysgu sut i goginio un o’r ryseitiau a fydd yn cael ei gyflwyno i’r fwydlen cinio ysgol newydd yn yr hydref – ac yn ei flasu gyda’u cyd-ddisgyblion.
Mae prosiect cydweithredol rhwng y tîm arlwyo yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr a’r Cookalong Clwb yn ymweld ag un ar ddeg o ysgolion y mis hwn, gan roi gwers goginio ymarferol i ddisgyblion, a chasglu eu hadborth wrth iddynt rannu’r hyn y maen nhw wedi’i goginio gyda disgyblion eraill.
Yn ogystal â dysgu am goginio pryd iach o’r dechrau – pasta a saws tomato sy’n cynnwys saith llysieuyn – mae’r disgyblion hefyd yn dysgu am bwysigrwydd defnyddio llysiau sy’n cael eu tyfu yng Nghymru mewn ceginau ysgol.
Mae’r rhaglen Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn bartneriaeth rhwng ysgolion a thyfwyr yng Nghymru, sy’n gweithio i sicrhau bod yr hyn sy’n cael ei weini gan ysgolion yn cyd-fynd â’r hyn rydym yn ei dyfu yng Nghymru. Cafodd y disgyblion ym Mhen-y-bont ar Ogwr y cyfle i flasu brocoli porffor Cymreig a fydd yn cael ei gyflwyno i’r fwydlen, ochr yn ochr â moron organig Cymreig, o fis Medi ymlaen.
Cafodd bwydlen newydd yr ysgol ei datblygu yn unol â rheoliadau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar Fwyta’n Iach mewn Ysgolion. Bydd hyn yn sicrhau bod o leiaf ddau ddogn o lysiau ac un dogn o ffrwythau yn cael eu darparu bob dydd a bod yr opsiynau nad ydynt yn iach, fel bwydydd wedi’i ffrio a chynnyrch crwst, yn cael eu cyfyngu.
Ymwelodd y Cynghorydd Martyn Jones, Aelod y Cabinet dros Addysg a Phobl Ifanc, ag un o’r sesiynau yr wythnos hon yn Ysgol Gynradd Betws, gan ddweud:
“Rydym yn trawsnewid y fwydlen yn ein hysgolion y tymor nesaf i sicrhau y gall pob plentyn fwynhau pryd maethlon ac iach, bob dydd. Mae hyn o fudd i’w hiechyd a’u datblygiad, yn eu helpu i ddysgu ac yn sefydlu arferion bwyta iach ar gyfer y dyfodol.
“Rwyf wedi cael bore gwych yma gyda’r dosbarth yn ysgol Betws yn gwneud pryd pasta blasus gan ddefnyddio llysiau. Mae’n wych gweld y plant yn dangos diddordeb yn y fwydlen newydd, yn rhoi cynnig ar bethau newydd ac yn dysgu sgiliau coginio gwerthfawr.
“Dyma enghraifft wych o gydweithio rhwng tîm arlwyo ein Cyngor, Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr, y Cookalong Clwb a’n hysgolion cynradd, i sicrhau bod y plant yn rhan o’r gwaith o drawsnewid y fwydlen – ac yn bwysicach na hynny, yn cael y cyfle i ddweud eu barn wrthym am y prydau bwyd,” meddai.
Meddai Lynsey Lewis, uwch athrawes yn Ysgol Gynradd Betws:
“Mae’r dosbarth wedi cael amser gwych yn dysgu sut i goginio’r rysáit newydd. Rydyn ni wedi cael ymatebion gwych i’r hyn maen nhw wedi’i goginio ac mae llawer o’r disgyblion wedi blasu llysiau heddiw nad ydyn nhw erioed wedi’u blasu o’r blaen neu rai nad oedden nhw’n meddwl eu bod yn eu hoffi. Mae wedi bod yn wers ymarferol wych, ac maen nhw wedi dysgu llawer ynglŷn ag o ble mae ein bwyd yn dod a’r llysiau rydyn ni’n eu tyfu yng Nghymru yn arbennig ar gyfer ein ceginau ysgol.”
Mae sesiynau’r Cookalong Clwb yn cael eu cynnal mewn un ar ddeg o ysgolion cynradd drwy gydol mis Mehefin a mis Gorffennaf: Blaengarw, Ffaldau, Afon Y Felin, Betws, Garth, Tremaens, Bracla, Litchard, Pen y Bont, Cefn Cribwr, St Roberts.