Partneriaeth Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr – Contract Economi Bwyd Cynaliadwy
Ynghylch y Prosiect:
Rhwydwaith cydweithredol yw Partneriaeth Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr a lansiwyd ym mis Ionawr 2024 i drawsnewid y system fwyd leol ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n cael ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a’i chenhadaeth graidd yw dod â bwyd iach, cynaliadwy, a gynhyrchir yn lleol o fewn cyrraedd i bawb yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.
Ym mis Tachwedd 2025, dyfarnwyd gwobr genedlaethol fawreddog, sef Gwobr Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, i’r bartneriaeth am ei harweinyddiaeth wrth fynd i’r afael â thlodi bwyd, lleihau gwastraff, a chefnogi economïau bwyd lleol.
Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd â nod strategol y bartneriaeth i adeiladu economi fwyd gynaliadwy ffyniannus ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’n ymgyrch strwythuredig 6 mis, sydd wedi cael ei chynllunio i ehangu rhwydwaith yr economi bresennol (rhan o’r bartneriaeth ehangach). Bydd y fenter yn cael ei harwain gan y bartneriaeth fwyd mewn cydweithrediad â’r hwylusydd rhwydwaith llwyddiannus i ganolbwyntio ar dynnu busnesau bwyd lleol i mewn, cynllunio gweithdy uwchsgilio, cysylltu cadwyni cyflenwi lleol trwy ddigwyddiad, gan arwain at lwybr bwyd sirol fydd yn wynebu’r cyhoedd.
Hwylusydd Rhwydwaith Llawrydd: Prosiect Economi Bwyd Cynaliadwy
- Math o Gontract: Llawrydd
- Hyd: 6 Mis yn cychwyn ym mis Medi 2026
- Cyfanswm y Ffi: £10,000 (yn cynnwys yr holl dreuliau)
- Yn adrodd i: Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr
Trosolwg ar y Swydd
Rydym yn chwilio am Hwylusydd Rhwydwaith Llawrydd egnïol, trefnus, gyda meddylfryd cymunedol i arwain cam nesaf ein rhwydwaith Economi Bwyd Cynaliadwy. Bwriad yr ymgyrch 6 mis hon yw gyrru economi fwyd leol ffyniannus drwy ddenu busnesau bwyd i mewn, trefnu sesiynau dysgu ynghylch cynaladwyedd, a chynhyrchu llwybr bwyd fydd yn ddathliad cyhoeddus effeithiol.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn rhagori mewn ymgysylltu â busnesau, cydlynu digwyddiadau, a rheoli prosiectau, gan weithredu fel yr ail bwynt cyswllt ar gyfer busnesau bwyd lleol, cyflenwyr, a phartneriaid y prosiect yn ogystal â’r bartneriaeth fwyd leol.
Y Cyfrifoldebau a’r Cyflawniadau Allweddol
- Ymgysylltu â Rhanddeiliaid: Ymroi i gysylltu â chyflenwyr cynaliadwy lleol, tyfwyr ac arweinwyr bwyd ysbrydoledig a sicrhau ymrwymiadau ganddynt i weithredu fel mentoriaid a phartneriaid rhwydwaith.
- Cyfarfodydd Cyflenwyr ar Themâu: Trefnu, hyrwyddo a hwyluso digwyddiadau rhwydweithio B2B strwythuredig sy’n canolbwyntio ar wneud y defnydd gorau o effeithlonrwydd y gadwyn gyflenwi leol.
- Gweithdai Cynaladwyedd: Cydlynu sesiynau dysgu yn cynnwys siaradwyr gwadd ac arbenigwyr er mwyn arwain busnesau i fabwysiadu arferion gweithredu mwy cynaliadwy.
- Cydlynu Llwybr Bwyd
- Cydlynu Digwyddiadau Arbennig: Cynorthwyo lleoliadau aelodau i reoli a marchnata diwrnodau agored, gweithdai rhyngweithiol a Chlybiau Swper ar y cyd gyda’r nos fydd yn arddangos tarddiad lleol.
- Marchnad Ffermwyr Canol Tref: Rheoli logisteg a sefydlu seilwaith ar gyfer marchnad ffermwyr ar benwythnos fydd yn denu nifer fawr o ymwelwyr ac yn gweithredu fel y digwyddiad angor ar gyfer y llwybr bwyd.
Y Sgiliau a’r Profiad Gofynnol
- Ymgysylltu â Busnes: Profiad o weithio gyda busnesau annibynnol lleol, lleoliadau lletygarwch, neu gynhyrchwyr amaethyddol.
- Rheoli Digwyddiadau: Profiad ymarferol o gyflwyno digwyddiadau rhwydweithio busnes, gweithdai, neu farchnadoedd/gwyliau bwyd cyhoeddus.
- Cyfathrebu: Sgiliau digidol a rhyngbersonol cryf, gyda’r gallu i weithredu fel “wyneb” angerddol mudiad cynaladwyedd.
- Trefnusrwydd: Gweithiwr llawrydd llawn cymhelliant sy’n medru rheoli amserlenni tynn a chynnal perthynas â nifer o werthwyr ar draws ffenestr gaeth o 6 mis.
- Gwybodaeth am Gynaladwyedd: Byddai diddordeb clir mewn cadwyni cyflenwi bwyd lleol, economïau cylchol, ac arferion busnes cynaliadwy yn dra dymunol.
Y Cyd-destun Busnes ac Adnoddau
Caiff yr hwylusydd gefnogaeth uniongyrchol o gyllideb Brandio a Marchnata o £2,500 a bydd yn goruchwylio cyllideb Llwybr Bwyd a Digwyddiadau o £10,000 sydd wedi ei neilltuo ar gyfer llogi seilwaith marchnad ffermwyr a rhoi cymhorthdal i glybiau swper lleoliadau.
Sut i Wneud Cais
Anfonwch gynnig byr (uchafswm o 2 dudalen) at foodpartnership@bridgend.gov.uk erbyn 10 Mis Medi 2026, yn cynnwys y manylion canlynol:
- Manylion cyswllt
- Cynnig byr yn amlinellu sut yr ydych chi’n cwrdd â’r sgiliau a’r profiad gofynnol (gweler y meini prawf asesu isod)
- Amserlen arfaethedig a dyraniad amser.
- Crynodeb o’r gyllideb, yn manylu ar: pwy fyddai’n cyflawni’r gwaith, eu cyfradd ddyddiol, faint o ddyddiau y byddai’r cyllid yn talu amdanynt ac unrhyw gostau ychwanegol a ragwelir e.e. treuliau, a’r cyfanswm (gan gynnwys TAW lle bo’n berthnasol).
- Datganiad o unrhyw wrthdaro buddiannau posibl
Caiff pob cais ei adolygu gan ein panel, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael gwybod erbyn 16 Mis Medi 2026