Awgrymiadau ar Leihau Gwastraff Bwyd – Gemma Lewis, The Pantri Box

Rwy’n casáu gorfod taflu bwyd, felly un awgrym syml iawn rwyf wastad yn ei argymell yw defnyddio cynwysyddion gwydr i storio unrhyw lysiau ffres, ffrwythau neu brydau wedi’u paratoi.

Bydd eu storio mewn cynhwysydd wedi’i selio yn eu helpu i bara’n hirach yn yr oergell. Ond yn bwysicach na hynny, mae cynhwysydd gwydr yn golygu y gallwch weld ar unwaith beth sydd gennych, sy’n golygu eich bod yn llai tebygol o anghofio amdano a gwybod i beidio â’i ychwanegu at eich rhestr siopa.

Mae’n syniad syml, ond effeithiol iawn.

Awgrym arall yw cadw ryseitiau cawl da wrth law. Mae cawl yn ffordd wych o ddefnyddio unrhyw lysiau dros ben drwy ychwanegu perlysiau neu sbeisys a rhywfaint o stoc neu ddŵr. Fy ffefryn ar hyn o bryd yw cawl blodfresych wedi’i wneud gyda chnau coco a sinamon.

Gall y ffordd rydych chi’n siopa helpu hefyd. Mae siopa mewn ffordd sy’n osgoi gwastraff yn ffordd wych a hawdd o leihau costau yn ogystal â lleihau gwastraff. Y peth gwych am siop ail-lenwi yw y gallwch brynu dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch chi. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os ydych yn coginio i un neu’n rhoi cynnig ar rysáit newydd. Os oes gennych rysáit newydd, byddwn hyd yn oed yn cymysgu’r union swm o sbeisys sydd eu hangen arnoch chi – gan arbed arian, gwastraff ac amser! Dim mwy o chwilota am hen jariau sbeisys yng nghefn y cwpwrdd sydd wedi bod yno ers 10 mlynedd!

Gallwch ymweld â Gemma yn ei siop Dim Gwastraff bob dydd yn: Adeilad Harlequin, Porthcawl CF36 3B