Mae The White House, sy’n gartref gofal annibynnol ym Mracla, wedi cael cymorth Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr i fynd i’r afael â’r her o fwydo bwyd iach i breswylwyr ar gyllideb dynn.
Mae staff yn The White House yn coginio’n rheolaidd i hyd at 20 o bobl ar y tro – sy’n cynnwys staff a phreswylwyr – a all fod yn her!
Gyda chymorth partner rheolaidd, y Cookalong Clwb, mae Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynnal pedair sesiwn gyda’r tîm, gan weithio drwy’r fwydlen ac addasu prydau, creu prydau newydd a chyflwyno cynhwysion mwy cynaliadwy.
Dirprwy Reolwr The White House, Ellen Betts, wnaeth y cyswllt cychwynnol â Phartneriaeth Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr. Meddai:
“Roedden ni eisiau rhoi hwb i sgiliau coginio’r staff a’u cefnogi i allu cynnig amrywiaeth ehangach o fwydydd iach i breswylwyr, ond gan gadw o fewn y gyllideb. Maen nhw wedi mwynhau’r sesiwn goginio yn fawr iawn ac wedi rhoi adborth gwych i ni – ac mae eu hyder yn y gegin yn cynyddu.
“Y pryd diweddaraf y gwnaethom ni roi cynnig arno gyda’r Cookalong Clwb oedd tsili ffa – roedd hynny’n golygu lleihau gwastraff bwyd drwy beidio â phlicio’r moron, a achosodd gryn dipyn o drafodaeth!”
Ar ôl y sesiynau, mae staff yn The White House wedi creu casgliad o ryseitiau hygyrch y maen nhw’n teimlo’n hyderus y gallant eu hail-greu ar gyfer eu tîm eu hunain a’u preswylwyr.