June 29, 2026

Mae mis Mehefin yn cychwyn gyda Diwrnod Rhyngwladol Llaeth, felly fe gawson ni sgwrs gyda’r ffermwr llaeth Rhys Lougher y mae ei fferm deuluol, Tŷ Tanglwyst, yn cyflenwi llaeth i’r holl geginau ysgol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r fferm yn y Pîl wedi cael ei ffermio gan y teulu Lougher ers pedair cenhedlaeth. Yn gartref i fuches o wartheg pedigri Holstein, mae’r fferm yn cwmpasu 150 erw – gan gynnwys 125 erw o dir pori ffrwythlon a 25 erw o goetir derw hynafol gwarchodedig. Gan ei fod wedi’i lleoli nid nepell o’r arfordir, mae’r fferm yn elwa ar yr hinsawdd forwrol fwyn sy’n darparu tywydd cynnes a digonedd o law, sy’n berffaith i dyfu glaswellt ffrwythlon i’r gwartheg.

Mae Rhys yn egluro bod mwy i’r fferm na chynhyrchu llaeth:

“Mae addysg yn rhan bwysig iawn o’n gwaith – mae’n rhywbeth yr ydym yn angerddol ynglŷn â’i rannu. Rydym yn cyflenwi llaeth i bob ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ynghyd â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr a thua 40 o feithrinfeydd, felly mae pobl ifanc ledled y fwrdeistref sirol eisoes yn gyfarwydd â’r hyn rydyn ni’n ei gynhyrchu.

Dangos i blant o ble y daw eu llaeth

“Ond mae’n bwysig bod plant a phobl ifanc hefyd yn deall o ble mae eu bwyd yn dod. Felly, ers blynyddoedd bellach rydym wedi bod yn cynnig ymweliadau fferm am ddim i ysgolion lleol – ysgolion cynradd yn bennaf – fel y gall disgyblion ddod yma i ddysgu am sut mae eu llaeth yn cael ei gynhyrchu.

“Ar ymweliad, maen nhw’n dysgu am y broses gyfan, o bwysigrwydd y pridd a’r glaswellt rydyn ni’n ei dyfu ar gyfer pori, i sut rydyn ni’n magu ein lloi, yn godro ein gwartheg, yn storio ac yn cludo ein llaeth. Maen nhw’n gweld y gadwyn gyflenwi gyfan yr holl ffordd i’r faniau oergell rydyn ni’n eu defnyddio i ddosbarthu’r llaeth i’w hysgolion.

“Rydyn ni hyd yn oed yn rhoi taith o amgylch yr ‘Oergell Fawr’ iddyn nhw, gan ddangos ein huned storio oer lle maen nhw’n cael gweld yr ystod lawn o gynhyrchion rydyn ni’n eu gwneud gan gynnwys yr holl wahanol fathau o laeth (gan gynnwys llaeth siocled!), hufen a menyn. Rydyn ni’n cysylltu’r cyfan â’r cwricwlwm felly tra maen nhw’n edrych o gwmpas maen nhw hefyd yn dysgu am bwysau a mesurau a thymheredd a llawer mwy.

Cefnogi’r Genhedlaeth Nesaf i ymuno â’r byd ffermio

“Gyda’r grwpiau oedran hŷn, rydym yn gweithio’n agos gyda champws Pencoed Coleg Pen-y-bont ar Ogwr ac mae eu myfyrwyr amaethyddiaeth yn ymweld â ni’n rheolaidd i gael profiad gwaith, ac mae rhai yn mynychu’n wythnosol i feithrin gwybodaeth ymarferol. Hefyd, mae darlithwyr yn dod â dosbarthiadau llawn yma ar gyfer teithiau addysgol o amgylch y fferm, sy’n bwysig iawn wrth ddatblygu’r gweithlu amaethyddol lleol.

Cefnogi’r economi leol

“Mae’n wych ein bod yn gallu cysylltu’r gwaith rydyn ni’n ei wneud gydag ysgolion a cholegau â rhai o’n contractau llaeth mwyaf. Drwy ddefnyddio cyflenwr lleol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cadw arian cyhoeddus yn yr economi leol. Mae hynny’n galluogi ein busnes i sicrhau bod yr arian hwnnw’n parhau i gylchredeg yn lleol – rydym yn cyflogi 35 o bobl sydd i gyd yn byw yn yr ardal gyfagos ac mae gennym berthnasoedd â chyflenwyr lleol sy’n mynd yn ôl genedlaethau.

“Mae prynu’n lleol hefyd yn helpu i symleiddio cadwyni cyflenwi, lleihau milltiroedd bwyd, a’n galluogi i fuddsoddi mewn buddion cymunedol eraill fel ein prosiectau cynaliadwyedd.

Gofalu am y tir

“Rydym wedi buddsoddi mewn paneli solar ar gyfer y to sy’n ein helpu i leihau allyriadau carbon y fferm drwy’r defnydd o ynni. Rydym hefyd yn gweithio i gefnogi bioamrywiaeth ar ein tir drwy brosiectau rheoli cynefinoedd o dan Gynllun Ffermio Cynaliadwy newydd Llywodraeth Cymru, drwy roi cychod gwenyn ar y safle i gefnogi peillwyr a thrwy brosiect cydweithredol gyda Chlwb Adar Morgannwg sydd wedi gosod blychau nythu ac sy’n cynnal arolygon adar.”

Mae Tŷ Tanglwyst yn enghraifft wych o’r economi fwyd gynaliadwy ar waith. O ddefnyddio prosesau caffael lleol i sicrhau bod arian yn parhau i gylchredeg mewn cymunedau lleol a buddsoddi mewn arferion ffermio cynaliadwy, i’w ymrwymiad i addysg a buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd.