Beth yw’r hanes y tu ôl i’ch busnes?
Fe ddechreuodd Brenhines y Pasteiod yn yr un ffordd ag y mae pob syniad da yn dechrau — braidd yn ddamweiniol ac yn cael ei danio gan hoffter o fwyd gwirioneddol dda.
Ar hyd yr amser, rydw i wedi rhoi’r pwyslais ar goginio iawn, cysurlon a di-lol, ac un tro daeth i’m meddwl… pam nad oes neb yn gwneud pasteiod fel hyn bellach? Felly dyma fi’n dechrau. Nifer fechan ar y tro, blas cryf, ac, wrth wraidd y cyfan, y modd i olrhain y cynhwysion, gan ddefnyddio ein cig eidion a’n cig oen ni ein hunain o fferm ein teulu.
Troes un bastai yn ddeg, aeth deg yn “Oes gennych chi fwy?”, a chyn i mi sylweddoli roeddwn i hyd at fy mhen-gliniau mewn crwst gyda busnes llawn ar fy nwylo.
Mae wedi tyfu’n hollol organig – o anhrefn cegin y ffermdy i drefniant becws llawn – a rywsut mae pobl yn dal i ddod yn ôl am ragor, ac rydw i’n cymryd hynny fel arwydd da.
Beth sy’n gosod eich busnes chi ar wahân i wneuthurwyr pasteiod eraill?
Yn fyr: dydym ni ddim yn torri corneli… dim ond crwst. Mae pob dim yn cael ei wneud yn iawn. Cigoedd wedi eu coginio’n araf sy’n cwympo’n ddarnau; pob pastai yn llawn hyd at yr ymylon o lenwad; saws sy’n gyfoethog ac yn foethus (dim nonsens dyfrllyd na llenwyr yma), a chynhwysion ffres o safon uchel — yn ddelfrydol, o’n fferm ni ein hunain neu yn lleol pryd bynnag y gallwn eu cael. Os ydy rhyw gynhwysyn mewn pastai Brenhines y Pasteiod, mae yno am ryw reswm.
Ar unrhyw adeg gallwn ddweud wrthych chi holl ystadegau’r bastai gig eidion yr ydych chi’n ei bwyta — ym mha gae y cafodd yr anifail ei eni, rhifau tagiau, y tarw a’r fuwch, a phentwr o wybodaeth arall — nawr, ble arall gellwch chi gael manylion llawn y cynhwysion mewn pastai fel yna?
Hefyd, mae gennym ni ychydig o bersonoliaeth o’n cwmpas. Nid dim ond “dyma eich pastai, hwyl fawr” ydyw — mae yma hiwmor, mae yma anhrefn, rydym ni i gyd fwy na thebyg wedi’n gorchuddio â blawd yn sôn am ein gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol. Dydym ni ddim yn cymryd ein hunain ormod o ddifrif, ond rydym ni’n ofalus iawn o ran y pasteiod.
Fedrwch chi ddisgrifio diwrnod ym mywyd Brenhines y Pasteiod?
Dychmygwch gymysgedd rhwng cegin broffesiynol, dawns o’r 90au a sioe gomedi. Mae anhrefn drefnus yn agos iddi. Mae dechrau’n gynnar yn hollol ddi-ddadl. Rhaid mynd ati’n syth i baratoi llenwadau, rholio crwst, pobi’r naill hambwrdd ar ôl y llall o basteiod, a chadw tua deg peth gwahanol rhag llosgi yr un pryd.
Rywbryd yng nghanol hynny, rydw i hefyd yn ateb negeseuon, yn ffilmio rhywbeth ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, yn profi blas (yn ofalus i ddibenion rheoli ansawdd, wrth gwrs), ac yn anghofio fwy na thebyg ble rydw i wedi gadael fy nghoffi.
Mae yna lawer o redeg o gwmpas, llawer o amldasgio, a llawer o “dyna ddigon, gadewch i ni symud ymlaen” — ond fyddwn i ddim eisiau i bethau fod yn wahanol. Erbyn diwedd y dydd, rydw i wedi ymlâdd, yn flawd i gyd, ac eisoes yn meddwl am y casgliad nesaf. ⸻
Beth yw cyfeiriad Brenhines y Pasteiod i’r dyfodol
Rheoli’r byd… ond gwneud pasteiod. Y cynllun ydy tyfu — ehangu ymhellach, mwy o gwsmeriaid, mwy o basteiod yn hedfan drwy’r drws — ond heb golli’r hyn sy’n gwneud Brenhines y Pasteiod yr hyn ydyw. Does arna i ddim eisiau iddo byth deimlo fel pe bai’r pasteiod yn cael eu cynhyrchu’n dorfol neu’n ddi-enaid. Yr holl bwynt yw ei fod yn teimlo’n real, ychydig yn bersonol, ac yn foethus iawn.
Rydym yn meddwl am greu gwefan fel y gallwn ddanfon pasteiod allan y diwrnod wedyn ledled y DU, gan wthio gwasanaeth danfon lleol ymhellach, a dim ond adeiladu rhywbeth y mae pobl yn ei adnabod yn syth ac yn ymddiried ynddo. Yn y bôn, os bydd rhywun yn dyheu am bastai go iawn, mae arna i eisiau i Frenhines y Pasteiod fod y peth cyntaf sy’n dod i’w feddwl.⸻
Oes yna unrhyw ffefrynnau yr ydych yn eu hargymell?
Y bastai Gig Eidion Orau — clasur llwyr, cig eidion cyfoethog wedi ei goginio’n araf ac wedi ei gratio ynghyd â grefi, yn gwneud yr union beth y mae’n ei ddweud ar y tun; Pastai ham a chennin — y byddaf yn ei hamddiffyn i’r eithaf am ei bod yn cael ei thanbrisio’n enbyd…Ac unrhyw beth moethus ac ychydig yn ormodol — dydym ni ddim yn gwneud pasteiod trist yma. A dweud y gwir, does dim un dewis anghywir. Mae’n dibynnu ar ba mor farus yr ydych chi’n digwydd teimlo’r diwrnod hwnnw. A’r danteithion melys sy’n gwerthu orau fyddai ein sleisys cwstard a theisennau Manceinion – mae’n edrych fel nad oes modd gwneud digon ohonyn nhw!