Mae llawer o wasanaethau bwyd fforddiadwy lleol yn cael eu rhedeg gan sefydliadau’r trydydd sector fel Cwmnïau Buddiant Cymunedol, Elusennau a Grwpiau Cymunedol. Yn aml, cânt eu sefydlu mewn ymateb uniongyrchol i angen cymunedol ac yn aml maent yn enghreifftiau rhagorol o’r ‘gymuned yn gweithio er budd y gymuned.’

Mae llawer o’r sefydliadau hyn yn canfod ei bod yn gymharol syml i ddenu cyllid pan fyddant yn sefydlu am y tro cyntaf. Mae’n ymddangos bod pob cyllidwr yn fwy na pharod i gefnogi rhywbeth newydd a chyffrous. Fodd bynnag, mae angen i’r grwpiau llwyddiannus hynny sy’n tyfu’n organig mewn ymateb i’r galw, ac y mae eu gwasanaethau’n cael eu defnyddio’n helaeth dros y tymor hwy, wrth gwrs, dalu costau craidd cynyddol.

Dyma lle mae pethau’n heriol; cymharol ychydig o gyllidwyr sy’n fodlon ariannu gofynion refeniw ac mae llai fyth yn fodlon talu costau craidd. Yn anochel felly, mae galw enfawr ar yr ychydig o gyllidwyr sy’n gwneud y ddau ac mae llawer o gystadleuaeth. Felly, mae perygl na fydd gwasanaethau poblogaidd sy’n cael eu rhedeg yn dda a chanddynt drefniadau llywodraethu rhagorol yn gallu parhau oherwydd diffyg cyllid craidd.

Cynaliadwyedd a chynhyrchu incwm yw’r allwedd i hyn; dylai pob sefydliad sy’n cyflenwi bwyd dros ben i gymunedau edrych ar eu cynaliadwyedd hirdymor. Mae gan Baobab Bach gynnyrch sylfaenol, y bag bwyd dros ben fforddiadwy gwerth £5. Mae ar gael i bawb. Mae’n arbed bwyd rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi ac yn helpu gyda chyllideb teuluoedd. Bydd hwn wastad yn rhywbeth sy’n gwneud colled, felly mae’n cael ei gefnogi drwy ddatblygu cynnyrch arall sy’n creu incwm. Mae hyn yn cynnwys tyfu ein ffrwythau a’n llysiau ein hunain, cynhyrchu prydau parod wedi’u rhewi ar gyfer unigolion yn y gymuned sydd angen neu eisiau’r gwasanaeth hwnnw, dysgu sgiliau coginio cost isel a maeth sylfaenol i bobl, darparu gwasanaeth arlwyo ar gyfer digwyddiadau a llawer mwy.

Mae’r sefydliad wedi gorfod datblygu mewn ffordd mor gynaliadwy â phosibl. Y peth olaf y mae Baobab Bach ei eisiau yw pwyso ar gyllidwyr am arian i brynu bwyd bob wythnos, sy’n anghynaliadwy ac yn mynd yn groes i’r bwriad o leihau gwastraff bwyd a thirlenwi. Prynu bwyd gyda chronfeydd grant am gost lawn i’w werthu am gost isel a gwastraffu cryn dipyn yn y broses, fwy na thebyg? Yn bendant ddim. Cynaliadwyedd yw’r nod.

Mae yna lawer o ffactorau sy’n effeithio ar sefydliadau sy’n cefnogi cymunedau drwy ddosbarthu bwydydd dros ben, darparu prydau cymunedol, a rhannu cyngor ar goginio a maeth. Rhan o’r hyn rydym yn ei gynnig yw dysgu sgiliau coginio sylfaenol, hyrwyddo bwyta’n iach a maeth da am gost mor isel â phosibl. Rydym yn annog pobl i gymdeithasu dros brydau bwyd – rhywbeth y mae pobl wedi’i wneud erioed, sy’n ein clymu ni at ein gilydd ac yn datblygu cymuned; ond byddai’n braf gallu gyrru i’r gwaith neu’r siopau heb basio hysbysfwrdd sy’n arddangos rhyw fath o fwyd brys yn llawn siwgr, halen, braster, a dyn a ŵyr beth arall! Mae’r teledu hefyd yn llawn hysbysebion o’r fath, felly mae pobl yn dal i archebu pizza sy’n costio mwy na dau fag mawr o fwyd o’n pantri ni, a fyddai’n eu

cadw nhw i fynd am rai dyddiau yn hytrach na rhai munudau. Byddai o fudd mawr i gynifer o bobl, i’w hiechyd a’u cyllideb, pe bai hysbysebion bwyd yn cael eu rheoleiddio mewn ffordd bragmatig.

O’n rhan ni, rydym yn bwriadu gwneud ein gorau glas i oroesi a chefnogi’r holl bobl anhygoel sy’n defnyddio ein gwasanaeth ac sydd wedi ein cefnogi ni dros y 5 mlynedd diwethaf. Rydym yn gwerthfawrogi’r partneriaethau, y rhoddion a’r cyfleoedd a gawsom ac yn benderfynol o barhau i gefnogi ein cymunedau i gynnal eu hunain.

Hawlfraint y llun: Future