CYDNABYDDIAETH O YMDRECHION I HYRWYDDO BWYD IACH, CYNALIADWY A LLEOL 

Mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn Gwobr Efydd glodfawr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, sy’n cydnabod arweinyddiaeth Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr o ran hyrwyddo bwyd iach, cynaliadwy a lleol. Mae’r wobr yn dathlu gwaith cydweithredol y bartneriaeth i fynd i’r afael â rhai o heriau bwyd mwyaf yr oes sydd ohoni; o dlodi bwyd a salwch sy’n gysylltiedig â deiet i gefnogi cynhyrchwyr lleol a lleihau gwastraff bwyd. 

Mae Gwobr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn gydnabyddiaeth ac yn ddathliad cenedlaethol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, o leoedd sy’n mabwysiadu dull cydgysylltiedig a chyfannol o ddarparu bwyd da. Mae Gwobr Efydd Pen-y-bont ar Ogwr yn adlewyrchu’r sylfeini cryf y mae’r bartneriaeth wedi’u hadeiladu drwy gydweithio ar draws y sir – gan ddod â thrigolion, grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau bwyd ynghyd i greu system fwyd leol decach a gwyrddach. 

O dan adain Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a gyda chefnogaeth Synnwyr Bwyd Cymru, lansiwyd Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr ddechrau 2024 i ddod â thyfwyr, busnesau, addysgwyr a sefydliadau cymunedol ynghyd. Gyda’i gilydd, maen nhw’n creu mudiad bwyd lleol sy’n cefnogi iechyd, gweithredu ar newid hinsawdd, a’r economi. 

Ymhlith llwyddiannau cynnar y bartneriaeth mae mentrau sy’n helpu i adeiladu cymuned fwyd fwy cysylltiedig a chynaliadwy ledled Pen-y-bont ar Ogwr – un lle mae bwyd iach, fforddiadwy a chyfeillgar i’r hinsawdd ar gael i bawb: 

Cyflwyno llysiau organig Cymreig wedi’u tyfu’n lleol i brydau ysgol a’r rhaglen haf Bwyd a Hwyl drwy’r cynllun peilot Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion. 

Gweithio mewn partneriaeth â BAVO i lansio Rhwydwaith Bwyd Cymunedol a dosbarthu grantiau bwyd cymunedol, gan gefnogi prosiectau ar lawr gwlad ledled y fwrdeistref. 

Gweithio gyda Coginio Da’n Gilydd Cymru i gynnal sesiynau coginio ymarferol sy’n meithrin sgiliau coginio a maeth ar draws cymunedau lleol. 

Yn fwyaf diweddar, gweithio mewn partneriaeth â thîm Deieteg Cwm Taf Morgannwg i ddarparu hyfforddiant Sgiliau Maeth am Oes ledled y fwrdeistref sirol. 

Lansio Rhwydwaith Economi Bwyd Cynaliadwy gyda’r Cynlluniwr Lles, gan gysylltu busnesau bwyd lleol a byrhau cadwyni cyflenwi. 
 
 
 
Ailddosbarthu cynnyrch dros ben B Leaf i grwpiau cymunedol, gan sicrhau nad yw bwyd da yn mynd yn wastraff. 
 
 
 
Gweithio mewn partneriaeth â Tanio a Baobab Bach i gyflwyno gweithdai addysg bwyd a chynaliadwyedd mewn ysgolion. 
 
 
 
Cydweithio â Slade Farm Organics i gynnig cyrsiau tyfu llysiau sy’n meithrin gwydnwch cymunedol, gan gynnwys treialu prosiect ysgolion lloeren arloesol gydag Ysgol Gynradd Afon y Felin lle mae’r disgyblion yn dysgu mwy am dyfu bwyd ac yn creu eu man tyfu eu hunain yn yr ysgol. 

I ddathlu’r wobr ac i nodi cam nesaf ei thaith, mae’r bartneriaeth wedi lansio gwefan newydd: www.bridgendfoodpartnership.co.uk.  
 
 
 
Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am brosiectau lleol, adnoddau a digwyddiadau lleol, ac yn gwahodd trigolion, ysgolion a busnesau i ymuno â’r mudiad bwyd da ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 
 
 
 
Dywedodd Lauren Saunders, Cydlynydd Bwyd Cynaliadwy Partneriaeth Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae’r ffordd y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, ei ddosbarthu a’i rannu yn effeithio ar bopeth – o iechyd a llesiant y gymuned i’r hinsawdd a’r economi leol. Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth wych o ba mor bell rydym wedi dod fel partneriaeth, ond mae hefyd yn alwad i barhau i adeiladu momentwm. Drwy gydweithio, rydym yn dangos pa mor bwerus y gall cydweithio fod wrth greu system fwyd decach a mwy gwydn i Ben-y-bont ar Ogwr.”