{"id":612,"date":"2026-09-08T09:09:41","date_gmt":"2026-09-08T09:09:41","guid":{"rendered":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/?p=612"},"modified":"2026-09-08T09:10:52","modified_gmt":"2026-09-08T09:10:52","slug":"or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\/","title":{"rendered":"O&#8217;R FFERM I&#8217;R FFORC: CYNLLUN PEILOT BLWYDDYN O HYD YM MHEN-Y-BONT AR OGWR YN HELPU DISGYBLION YSGOL GYNRADD I DYFU, COGINIO A GWEINI EU BWYD EU HUNAIN"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Partneriaeth blwyddyn yn cysylltu plant \u00e2 fferm organig drwy weithgareddau tyfu tymhorol, coginio a dysgu ymarferol<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae disgyblion o ysgol gynradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi treulio blwyddyn yn darganfod o ble mae eu bwyd yn dod drwy gynllun peilot arloesol sy&#8217;n cysylltu&#8217;r hyn a ddysgir yn yr ystafell ddosbarth \u00e2 fferm organig weithredol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Daeth <a href=\"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/\"><strong>Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr<\/strong><\/a><strong> <\/strong>\u00e2 <strong>Slade Farm Organics<\/strong> ac <strong>Ysgol Gynradd Afon-y-Felin <\/strong>ynghyd ar gyfer y prosiect blwyddyn, a oedd wedi&#8217;i anelu at gysylltu plant \u00e2&#8217;r tir, cynhyrchwyr bwyd lleol a&#8217;r tymhorau drwy weithgaredd dysgu ymarferol, yn seiliedig ar brofiad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dros y flwyddyn ysgol, ymwelodd y disgyblion \u00e2 Slade Farm Organics ar wahanol gyfnodau yn y calendr ffermio, gan gynnwys yn ystod y tymor wyna, a datblygu eu prosiect tyfu eu hunain yn yr ysgol ar yr un pryd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe wnaeth y plant helpu i gynllunio pa gnydau i&#8217;w tyfu, plannu a gofalu am lysiau, cael diweddariadau rheolaidd gan y fferm a chymryd rhan mewn sesiynau coginio gan ddefnyddio cynnyrch organig a chynnyrch tymhorol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod tymor yr hydref, fe wnaeth Coginio &#8216;Da&#8217;n Gilydd Cymru gynnal cwrs sgiliau coginio chwe wythnos hefyd i helpu disgyblion i feithrin sgiliau cegin hanfodol, ochr yn ochr \u00e2 sesiynau coginio pellach a gynhaliwyd gan Angharad Underwood o&#8217;r Cookalong Clwb.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Daeth y prosiect i ben gyda dathliad haf i rieni a theuluoedd ar ddiwedd y tymor, gyda disgyblion yn helpu i baratoi, gweini a bwyta prydau a wnaed gan ddefnyddio cynnyrch yr oeddent wedi&#8217;i dyfu eu hunain ochr yn ochr \u00e2 chynhwysion o Slade Farm.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd bwydlen y bwyty dros dro yn cynnwys hwmws ffa a phys, tagine ffacbys wedi&#8217;i wneud \u00e2 phlanhigyn wy a courgettes wedi&#8217;u tyfu&#8217;n lleol, salad tymhorol ac iogwrt wedi&#8217;i rewi wedi&#8217;i wneud gydag aeron lleol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd y ryseitiau&#8217;n seiliedig ar y cnydau yr oedd y disgyblion wedi&#8217;u plannu, gan ganiat\u00e1u i&#8217;r plant ddilyn y daith lawn o gynllunio a thyfu bwyd i&#8217;w goginio a&#8217;i rannu gyda&#8217;u teuluoedd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hwyluswyd y prosiect gan <a href=\"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/\"><strong>Bartneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr<\/strong><\/a><strong>,<\/strong> a ddaeth \u00e2&#8217;r holl bartneriaid ynghyd, ac y mae ei strategaeth yn ymwneud \u00e2 sicrhau bod bwyd da yn fwy hygyrch i bawb.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ariannwyd y cynllun peilot drwy Gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Partneriaethau Bwyd Lleol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ymwelodd y disgyblion \u00e2 Slade Farm Organics am y tro cyntaf ym mis Medi 2025, lle y cawsant eu cyflwyno i&#8217;r fferm a&#8217;i hardaloedd tyfu llysiau. Fe wnaethant ddychwelyd yn ystod tymor wyna\u2019r gaeaf ac eto yn y gwanwyn i weld sut yr oedd y fferm a\u2019i chnydau newid drwy gydol y flwyddyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Graeme Wilson, ffermwr trydedd genhedlaeth yn Slade Farm Organics, fod yr ymweliadau cyson wedi caniat\u00e1u i&#8217;r plant ddod yn fwyfwy hyderus a chymryd rhan ym mywyd y fferm.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201c<em>Yr hyn sydd wedi rhoi boddhad mawr i rywun yw gweld y daith y mae&#8217;r plant wedi ei dilyn<\/em>,\u201d meddai.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201c<em>Efallai y byddan nhw&#8217;n cyrraedd wedi cyffroi&#8217;n l\u00e2n neu&#8217;n teimlo braidd yn nerfus am fod ar fferm weithredol, ond erbyn eu hymweliad olaf maen nhw&#8217;n llawer mwy cyfforddus. Maen nhw&#8217;n deall beth sy&#8217;n digwydd ac maen nhw&#8217;n cyfrannu at waith y fferm.<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201cDechreuodd y plant drwy drafod hadau a thyfu bwyd fel rhywbeth eithaf haniaethol. Yna fe ddisgynnodd y geiniog: tynnu betys o&#8217;r ddaear a dechrau meddwl sut y gallent eu troi&#8217;n frownis siocled. Roedden nhw&#8217;n gwneud y cysylltiad yn llawn ac yn dechrau cymryd perchnogaeth o&#8217;r broses o dyfu bwyd.\u201d<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201cMae &#8216;na rywbeth gwirioneddol bwysig am blant yn dilyn y tymhorau ac yn dychwelyd i\u2019r un lle ac at yr un bobl dros amser. Mae&#8217;n caniat\u00e1u iddyn nhw feithrin hyder, datblygu dealltwriaeth llawer dyfnach ac yn y pen draw newid eu perthynas \u00e2 bwyd. Dyna sut mae llythrennedd bwyd yn datblygu, yn fy marn i.\u201d<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn \u00f4l yn <strong>Ysgol Gynradd Afon-y-Felin<\/strong>, fe wnaeth y plant roi&#8217;r hyn yr oedden nhw wedi&#8217;i ddysgu ar waith drwy gynllunio a phlannu cnydau ym mannau tyfu&#8217;r ysgol. Roedd y cynnyrch a blannwyd yn ystod y prosiect yn cynnwys betys, shibwns, pys, ffa, ffenigl a mintys.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd<strong> Katie Harris, athrawes ddosbarth yn Ysgol Gynradd Afon-y-Felin,<\/strong> fod y prosiect wedi helpu disgyblion i ddeall o ble mae bwyd yn dod yn ogystal \u00e2 datblygu eu hyder, eu chwilfrydedd a gwaith t\u00eem.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201cRoedden ni\u2019n tyfu betys yn ein rhandiroedd, ond nes i\u2019r plant eu gweld nhw&#8217;n tyfu, roedd y syniad yn dal yn eithaf haniaethol<\/em>,\u201d meddai.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201cRoedden nhw&#8217;n llawn cyffro o allu tynnu\u2019r betys o\u2019r ddaear, eu coginio yn y dosbarth a chael rhyw fath o ffrwydrad betys. Doedd e ddim yn gynnyrch y bydden nhw wedi&#8217;i brynu na&#8217;i goginio gartref o&#8217;r blaen, ond roedden nhw i gyd yn awyddus i&#8217;w flasu. Nawr, maen nhw&#8217;n llawer mwy parod i dynnu rhywbeth o&#8217;r ddaear, ei olchi a&#8217;i flasu.<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201cYr effaith fwyaf a gafodd hyn ar y dosbarth oedd ar eu gallu i weithio gyda\u2019i gilydd. Mae cydweithio ar brosiect wedi eu helpu i gymryd eu tro, cyfaddawdu a gweithio fel t\u00eem. Rydym hefyd wedi gweld parodrwydd mawr i flasu pethau newydd.\u201d<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd y prosiect hefyd yn anelu at wneud y berthynas rhwng tyfu, coginio a bwyta bwyd yn fwy ystyrlon drwy gynnwys teuluoedd yn y digwyddiad terfynol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Arweiniodd Angharad Underwood &#8211; sy&#8217;n rhedeg y Cookalong Clwb, prosiect coginio cymunedol sy&#8217;n dysgu sgiliau cegin, cyllidebu a chynaliadwyedd hanfodol i blant a theuluoedd &#8211; sesiynau coginio pellach wrth i&#8217;r prosiect fynd yn ei flaen.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Meddai, \u201c<em>Gwneud bwyd yn real yw&#8217;r nod. Mae&#8217;r plant yn dechrau drwy roi eu dwylo yn y pridd, yna plannu, dyfrio a gofalu am yr hyn maen nhw wedi&#8217;i dyfu. Yn y pen draw, maen nhw&#8217;n casglu&#8217;r cynnyrch, yn ei goginio ac yn bwydo eu teuluoedd. Mae&#8217;r cysylltiad hwnnw rhwng yr hyn maen nhw wedi&#8217;i dyfu, sut mae&#8217;n blasu, sut mae&#8217;n teimlo a rhannu&#8217;r bwyd hwnnw &#8211; yn bwysig iawn.<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201cMae&#8217;n fwy na&#8217;r ffaith bod y plant wedi gwneud rhywbeth a dyma fe. Maen nhw wedi gweithio am chwech, wyth <\/em>neu naw mis i&#8217;w greu, felly maen nhw&#8217;n ei werthfawrogi. Maen nhw&#8217;n deall mwy am wastraff bwyd, sut i wneud y gorau o&#8217;r hyn maen nhw wedi&#8217;i dyfu a&#8217;r balchder sy&#8217;n dod o&#8217;i rannu gyda&#8217;u teuluoedd.\u201d<em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I rai disgyblion, y prosiect hwn oedd eu profiad cyntaf o ymweld \u00e2 fferm weithredol neu weld sut mae llysiau&#8217;n tyfu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd un disgybl: <em>\u201cDoeddwn i erioed wedi bod i fferm o\u2019r blaen. Dysgais fod rhai llysiau&#8217;n tyfu yn y ddaear ac eraill yn tyfu ar goesynnau. Ers hynny, dw i wedi dechrau tyfu mefus gartref mewn pot ac rydyn ni&#8217;n eu rhoi yn y sied, rhag i&#8217;r gwlithod eu bwyta.\u201d<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cefnogwyd ardaloedd tyfu&#8217;r ysgol hefyd gan <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/cornellycommunitygarden\/\"><strong>Marlas Green Space<\/strong><\/a>, prosiect natur a chwarae dan arweiniad y gymuned yng Ngogledd Corneli, Pen-y-bont ar Ogwr. Fe wnaeth eu gwirfoddolwyr helpu i osod twnnel polythen, cynnal a chadw cnydau a dyfrio&#8217;r planhigion yn ystod gwyliau&#8217;r ysgol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd<strong> Emma Burnell, cadeirydd Marlas Green Space,<\/strong> fod y prosiect eisoes yn annog plant i gymryd mwy o ran mewn gweithgareddau amgylcheddol y tu allan i&#8217;r ysgol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Meddai, \u201c<em>Mae&#8217;r plant yn ein hadnabod ni pan fyddwn ni&#8217;n gweithio yn y gymuned ac yn dod draw i helpu. Rydyn ni&#8217;n gobeithio cynnwys rhieni hefyd, fel y gall plant weithio ochr yn ochr \u00e2&#8217;u teuluoedd, mynd \u00e2&#8217;r sgiliau hynny adref ac yna eu rhoi ar waith yn y gymuned ehangach.\u201d<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ychwanegodd Graeme fod y dull o weithio mewn partneriaeth yn un o gryfderau allweddol eraill y cynllun peilot, gan ddod \u00e2&#8217;r ysgol, sefydliadau cymunedol a gwirfoddolwyr ynghyd mewn ffordd a greodd rywbeth mwy na&#8217;r gweithgareddau unigol a rhoi cyfle cryfach i&#8217;r ysgol barhau \u00e2&#8217;r gwaith.<em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn dilyn y cynllun peilot, bydd Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi yr hyn a ddysgwyd ar waith mewn rhaglen ranbarthol ehangach. Mae Partneriaethau Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a Chasnewydd wedi derbyn cyllid drwy Gynllun Grant Cydweithio 2026-27 Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru ar gyfer Partneriaethau Bwyd Lleol i ddatblygu rhaglen llythrennedd bwyd gydweithredol sy&#8217;n cysylltu ysgolion \u00e2 ffermydd lleol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y rhaglen yn gweithio gyda dwy neu dair ysgol ym mhob ardal awdurdod lleol a bydd hefyd yn cynnwys gweithgaredd mentora ar gyfer tyfwyr a ffermydd, gan helpu mwy o gynhyrchwyr lleol i gynnal ymweliadau ysgol a chreu&#8217;r potensial i ffermydd sy&#8217;n cymryd rhan gael ffynhonnell refeniw ychwanegol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Partneriaeth blwyddyn yn cysylltu plant \u00e2 fferm organig drwy weithgareddau tyfu tymhorol, coginio a dysgu&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":614,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[],"class_list":["post-612","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v28.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>O&#039;R FFERM I&#039;R FFORC: CYNLLUN PEILOT BLWYDDYN O HYD YM MHEN-Y-BONT AR OGWR YN HELPU DISGYBLION YSGOL GYNRADD I DYFU, COGINIO A GWEINI EU BWYD EU HUNAIN - Partneriaeth Bwyd Gynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"O&#039;R FFERM I&#039;R FFORC: CYNLLUN PEILOT BLWYDDYN O HYD YM MHEN-Y-BONT AR OGWR YN HELPU DISGYBLION YSGOL GYNRADD I DYFU, COGINIO A GWEINI EU BWYD EU HUNAIN - Partneriaeth Bwyd Gynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Partneriaeth blwyddyn yn cysylltu plant \u00e2 fferm organig drwy weithgareddau tyfu tymhorol, coginio a dysgu...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Partneriaeth Bwyd Gynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-09-08T09:09:41+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-09-08T09:10:52+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/ZR1_2079-1-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1707\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Lauren Saunders\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Lauren Saunders\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Lauren Saunders\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/de40315edbc6099dd1edd83f02f019f7\"},\"headline\":\"O&#8217;R FFERM I&#8217;R FFORC: CYNLLUN PEILOT BLWYDDYN O HYD YM MHEN-Y-BONT AR OGWR YN HELPU DISGYBLION YSGOL GYNRADD I DYFU, COGINIO A GWEINI EU BWYD EU HUNAIN\",\"datePublished\":\"2026-09-08T09:09:41+00:00\",\"dateModified\":\"2026-09-08T09:10:52+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\\\/\"},\"wordCount\":1483,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/09\\\/ZR1_2079-1-scaled.jpg\",\"articleSection\":[\"Uncategorized @cy\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\\\/\",\"name\":\"O'R FFERM I'R FFORC: CYNLLUN PEILOT BLWYDDYN O HYD YM MHEN-Y-BONT AR OGWR YN HELPU DISGYBLION YSGOL GYNRADD I DYFU, COGINIO A GWEINI EU BWYD EU HUNAIN - Partneriaeth Bwyd Gynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/09\\\/ZR1_2079-1-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2026-09-08T09:09:41+00:00\",\"dateModified\":\"2026-09-08T09:10:52+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/de40315edbc6099dd1edd83f02f019f7\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/09\\\/ZR1_2079-1-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/09\\\/ZR1_2079-1-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1707},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Hafan\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"O&#8217;R FFERM I&#8217;R FFORC: CYNLLUN PEILOT BLWYDDYN O HYD YM MHEN-Y-BONT AR OGWR YN HELPU DISGYBLION YSGOL GYNRADD I DYFU, COGINIO A GWEINI EU BWYD EU HUNAIN\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Partneriaeth Bwyd Gynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/de40315edbc6099dd1edd83f02f019f7\",\"name\":\"Lauren Saunders\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/714fb7ac241705bc01fc4a1402869dd2e7276c36a6cb374e5a9262ffabd2e786?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/714fb7ac241705bc01fc4a1402869dd2e7276c36a6cb374e5a9262ffabd2e786?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/714fb7ac241705bc01fc4a1402869dd2e7276c36a6cb374e5a9262ffabd2e786?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Lauren Saunders\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\\\/cy\\\/author\\\/lauren-saunders\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"O'R FFERM I'R FFORC: CYNLLUN PEILOT BLWYDDYN O HYD YM MHEN-Y-BONT AR OGWR YN HELPU DISGYBLION YSGOL GYNRADD I DYFU, COGINIO A GWEINI EU BWYD EU HUNAIN - Partneriaeth Bwyd Gynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"O'R FFERM I'R FFORC: CYNLLUN PEILOT BLWYDDYN O HYD YM MHEN-Y-BONT AR OGWR YN HELPU DISGYBLION YSGOL GYNRADD I DYFU, COGINIO A GWEINI EU BWYD EU HUNAIN - Partneriaeth Bwyd Gynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr","og_description":"Partneriaeth blwyddyn yn cysylltu plant \u00e2 fferm organig drwy weithgareddau tyfu tymhorol, coginio a dysgu...","og_url":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\/","og_site_name":"Partneriaeth Bwyd Gynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr","article_published_time":"2026-09-08T09:09:41+00:00","article_modified_time":"2026-09-08T09:10:52+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1707,"url":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/ZR1_2079-1-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Lauren Saunders","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Lauren Saunders","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\/"},"author":{"name":"Lauren Saunders","@id":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/#\/schema\/person\/de40315edbc6099dd1edd83f02f019f7"},"headline":"O&#8217;R FFERM I&#8217;R FFORC: CYNLLUN PEILOT BLWYDDYN O HYD YM MHEN-Y-BONT AR OGWR YN HELPU DISGYBLION YSGOL GYNRADD I DYFU, COGINIO A GWEINI EU BWYD EU HUNAIN","datePublished":"2026-09-08T09:09:41+00:00","dateModified":"2026-09-08T09:10:52+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\/"},"wordCount":1483,"image":{"@id":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/ZR1_2079-1-scaled.jpg","articleSection":["Uncategorized @cy"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\/","url":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\/","name":"O'R FFERM I'R FFORC: CYNLLUN PEILOT BLWYDDYN O HYD YM MHEN-Y-BONT AR OGWR YN HELPU DISGYBLION YSGOL GYNRADD I DYFU, COGINIO A GWEINI EU BWYD EU HUNAIN - Partneriaeth Bwyd Gynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/ZR1_2079-1-scaled.jpg","datePublished":"2026-09-08T09:09:41+00:00","dateModified":"2026-09-08T09:10:52+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/#\/schema\/person\/de40315edbc6099dd1edd83f02f019f7"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/ZR1_2079-1-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/ZR1_2079-1-scaled.jpg","width":2560,"height":1707},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/or-fferm-ir-fforc-cynllun-peilot-blwyddyn-o-hyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-yn-helpu-disgyblion-ysgol-gynradd-i-dyfu-coginio-a-gweini-eu-bwyd-eu-hunain\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Hafan","item":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"O&#8217;R FFERM I&#8217;R FFORC: CYNLLUN PEILOT BLWYDDYN O HYD YM MHEN-Y-BONT AR OGWR YN HELPU DISGYBLION YSGOL GYNRADD I DYFU, COGINIO A GWEINI EU BWYD EU HUNAIN"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/","name":"Partneriaeth Bwyd Gynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/#\/schema\/person\/de40315edbc6099dd1edd83f02f019f7","name":"Lauren Saunders","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/714fb7ac241705bc01fc4a1402869dd2e7276c36a6cb374e5a9262ffabd2e786?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/714fb7ac241705bc01fc4a1402869dd2e7276c36a6cb374e5a9262ffabd2e786?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/714fb7ac241705bc01fc4a1402869dd2e7276c36a6cb374e5a9262ffabd2e786?s=96&d=mm&r=g","caption":"Lauren Saunders"},"url":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/author\/lauren-saunders\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/612","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=612"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/612\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":615,"href":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/612\/revisions\/615"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/614"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=612"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=612"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bridgendfoodpartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=612"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}